GRIFF RHYS JONES YN YMWELD Â THEATR Y TORCH GYDA'I SIOE UN DYN NEWYDD

Daeth un o noddwyr pwysig Theatr y Torch, Griff Rhys Jones i’r theatr ddydd Mercher diwethaf wrth i docynnau fynd ar werth ar gyfer ei sioe un dyn yma yn y Torch ar ddydd Sul 13 Tachwedd. Bydd Griff ar gymal cyntaf ei daith genedlaethol newydd sy’n cychwyn yn gynnar yn 2023 ac rydym wrth ein bodd ei fod yn dod i berfformio yn Aberdaugleddau.

Cyflwynydd, actor, awdur, cynhyrchydd, cyfarwyddwr a digrifwr – mae Griff yn ddyn y celfyddydau perfformio ac rydym wrth ein bodd yn cael ei sioe un dyn newydd yma yn y Torch. Bydd yr holl elw o sioe ddwyawr Griff yn cael ei rannu rhwng dwy elusen leol yma yn Sir Benfro – Theatr Ieuenctid y Torch a Chanolfan Ieuenctid POINT yn Abergwaun, lle mae Griff hefyd yn noddwr.

Meddai Griff:

“Rwy’n falch iawn o fod yn dod i’r Torch i berfformio fy sioe newydd. Fe fydd nifer ohonoch yn gwybod bod Sir Benfro yn agos iawn at fy nghalon. Mae'n wych gallu cefnogi pobl ifanc drwy fod yn noddwr i ddwy elusen leol bwysig yr wyf wedi bod yn ymwneud â nhw ers amser.

“Prynhawn 'ma, fe wnes i siarad â phobl ifanc o Ganolfan Ieuenctid POINT i ddysgu mwy am sut maen nhw'n cael eu cefnogi a'u hannog fesul yr hyn y gwna gyda POINT. Rwyf wedi gweithio yn y theatr yn y gorffennol gyda phobl ifanc ac rwy’n gwybod cymaint y maent yn elwa ac yn dysgu o gydweithio fel tîm a’r sgiliau a’r hyder y mae hyn yn eu rhoi iddyn nhw. Dau achos lleol gwych – bydd hi’n sioe gyffrous – yn enwedig i mi gan y bydda’ i’n gwneud pethau lan wrth i mi fynd ymlaen!”

Bydd sioe Griff yn cynnwys hanesion doniol a diddorol ac atgofion am ei yrfa hynod amrywiol, e'i orchestion o’i ddeugain mlynedd yn y busnes. Bydd Griff yn cyffwrdd straeon o'i deulu, yn teithio, yn Gymro, yn heneiddio, y bobl y mae wedi gweithio gyda nhw, yn pysgota, gwyliau a’i nawdd a chefnogaeth i nifer o elusennau. Bydd ail hanner y sioe yn gyfle i aelodau’r gynulleidfa gymryd rhan drwy ofyn cwestiynau i Griff y bydd yn ymdrechu i’w hateb!

Ychwanegodd Benjamin Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Torch:

“Mae cysylltiadau Griff â Sir Benfro yn adnabyddus, yn ogystal â’i ymrwymiad i gefnogi pobl ifanc a’r celfyddydau. Fel un o noddwyr gwerthfawr y Torch rydym wrth ein bodd yn ei groesawu yn ôl i Aberdaugleddau. Bydd elw'r sioe yn mynd er budd Theatr Ieuenctid y Torch a Chanolfan Ieuenctid POINT; dwy elusen sy’n gweithio ar wahanol begynau o Sir Benfro sy’n hyrwyddo llesiant ein pobl ifanc, tra’n darparu cyfleoedd a sgiliau bywyd cyfoethog.”

Dywedodd Zoe Davies, Rheolwr Cyffredinol POINT:

"Mae mor wych bod Griff wedi cynnig gwneud y sioe hon er budd pobl ifanc Sir Benfro. Mae POINT yn elusen sydd wedi bod yn darparu gwasanaethau galw heibio i bobl ifanc Gogledd Sir Benfro rhwng 11-25 mlwydd oed am dros 20 mlynedd. Bydd yr arian a godir yn hanfodol er mwyn i ni barhau â’n gwasanaethau craidd 6 diwrnod yr wythnos megis prydau poeth iach am 25 ceiniog 5 diwrnod yr wythnos, mynediad i weithgareddau sy’n herio ac ysbrydoli a chynnig man croesawgar diogel a chynnes a mynediad at gefnogaeth emosiynol."

Cewch weld ‘Noson Gyda Griff Rhys Jones’ yn Theatr y Torch ar nos Sul 13 Tachwedd am 7.30pm. Mae tocynnau’n £30.00 ac ar gael i’w harchebu o’n Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ar-lein yma.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.