Llond Bol o Hwyl yng Ngharnifal Tref Aberdaugleddau

Cymerodd nifer o staff ac aelodau Theatr Ieuenctid y Torch ran yng Ngharnifal blynyddol Aberdaugleddau dros y penwythnos – ac fe gawson nhw hwyl! Wedi gwisgo fel cymeriadau o gynhyrchiad haf Theatr Ieuenctid y Torch o The Bangers and Chips Explosion a fydd yn cael ei harddangos ar ein llwyfan ym mis Gorffennaf, hyrwyddodd y Torch eu sioeau sydd ar ddod yn ogystal â’r gyfres Sinema Machlud Haul.

“Roedd hi’n hollol wych cael bod allan yng Ngharnifal Tref Aberdaugleddau! Roedd hi’n grêt gweld cymaint o wynebau cyfeillgar. Gwelsom gynifer ohonoch chi sydd wedi ymuno â ni ar gyfer gweithgareddau, wedi mynd i weld ffilm, neu wedi mwynhau sioe fyw dros y flwyddyn ddiwethaf. A gwnaethom griw o ffrindiau newydd hefyd, wrth ruthro drwy’r dorf yn dosbarthu sticeri a thaflenni!” meddai Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned y Torch.

Ychwanegodd: “A dweud y gwir, y peth gorau am fod yn theatr, sinema, a chanolfan gelfyddydau yma yng nghanol Aberdaugleddau yw teimlo faint mae ein cymuned yn caru’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Byddem ni wedi hoffi sgwrsio â phawb a welsom, ond doedd hynny ddim yn bosib. Peidiwch â phoeni – rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n dal i fyny â llwyth ohonoch chi’n fuan yn ein hysgolion haf, cynyrchiadau, neu drwy un o’n prosiectau cymunedol anhygoel. Allwn ni ddim aros i’ch gweld chi bryd hynny!”

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.