BLOG RHIF. 2 - IAN JACOB

Trwy gydol mis Awst bydda i'n arddangos fy ngwaith gyda fy ngwraig Christine, yn Oriel Joanna Field yn Theatr y Torch. Gelwir yr arddangosfa yn yn ART WORKS ac mae'n cynnwys ystod eang o weithiau creadigol. Mae ein holl weithiau er hynny, wedi eu hysbyrdoli gan aber Cleddau, yn benodol y dyfrffordd a bywyd adar rhwng Benton Wood a Picton Point.

Ein cynllun gwreiddiol oedd dathu ein penblwyddi yn 70 oed ar y cyd ac arddangos ein gwaith ym mis Awst 2020 ond cafodd ein cynllun ei ohirio oherwydd COVID. Gwell hwyr na byth! Mae ein taith i gyrraedd y Torch wedi bod yn un diddorol!

Cefais fy ngeni yn Llangwm, Sir Benfro. Mynychais Ysgol Llangwm, Ysgol Ramadeg Hwlffordd ac yna'r Ysgol Gelf. Yn yr Ysgol Gelf fe wnes i gyfarfod â'm gwraig, Christine.

Wedi i mi adael Goldsmiths College, Llundain bûm yn addysgu ac yn arddangos am gyfnod byr cyn cymryd newid mawr mewn cyfeiriad gyrfa ac am dros 30 mlynedd mwynheais yrfa farchnata lwyddiannus yn Llundain ac Efrog Newydd. Yn 2010 fe wnaethom werthu'n cartref yn Nyffryn Tafwys a symud i Black Tar, Sir Benfro i gychwyn ar yrfaoedd newydd fel artistiaid!

Mae wedi bod yn brofiad heriol. Ond mae llwyddiant wedi dod â siom, er nid mewn symiau cyfartal, ac rwyf wedi cyflawni fy mhrif amcan o gael arddangosfeydd ‘sioe un dyn’ mewn sawl oriel fasnachol gan gynnwys:

Canolfan Celfyddydau Gorllewin Cymru, Abergwaun
Orieol Graham Sutherland, Castell Picton
The Air Gallery, Dover Street, Llundain
Museum of Modern Art, (MOMA), Machynlleth

Ac yna mae fy llyfr – BODY ROCK SAND
Rwyf wedi tynnu lluniau ers pan oeddwn yn yr ysgol. Yn yr Ysgol Gelf astudiais beintio a gwneud printiau. Roedd delweddau a thechnegau ffotograffig bob amser yn chwarae rhan ddylanwadol.

Fe wnaeth digwyddiad ‘creadigol’ tyngedfennol ddigwydd i mi ym 1970. Roeddwn yn yr Ysgol Gelf ac fe wnaeth Christine roi anrheg Nadolig i mi – llyfr gan y ffotograffydd o Ffrainc, Lucien Clergue. Enw’r llyfr yw Nee de la Vague, (Born of the Waves) – cyhoeddiad du a gwyn o fenywod noeth a saethwyd yn y môr ac ar draethau Môr y Canoldir.

O’r dechrau'n deg, dylanwadodd cynnwys y llyfr ar gynnwys fy allbwn creadigol. Daeth yn freuddwyd i mi un diwrnod i gynhyrchu fersiwn fy hun o lyfr Lucien Clergue.

Ganed Lucien Clergue yn Arles ac fe fu farw yn 2014. Yn 2016 fe wnaethom ymweld ag Arles. Fe wnaethon ni gwrdd â'i ferch Anne ac fe wnaeth rhoi taith bersonol i ni o amgylch bwyty ei thad. Cafodd y swyngyfaredd ei gosod ac fe wnes i addo i wireddu'r freuddwyd honno.

Felly yn 2016 dechreuais weithio ar y prosiect o gynhyrchu fy fersiwn fy hun o Nee de la Vague!

Mae’r prosiect wedi cymryd chwe blynedd i’w weithredu a lansiwyd y llyfr yn 2022.

I weld y fideo cliciwch yma

Tynnwyd y lluniau ar gyfer BODY ROCK SAND yn Sir Benfro – defnyddiwyd tri model a phedwar traeth.

Mae Body Rock Sand yn ffrwyth syniad a gynhyrchwyd ym meddwl Ian Jacob dros hanner canrif yn ôl. Mae’r ffotograffau terfynol yn eiliadau mewn amser sy’n dal natur gyfnewidiol  lan, ei batrymau a’i weadau trosglwyddadwy, gan archwilio cyferbyniadau rhwng cadernid y graig ac ystwythder y ffurf fenywaidd, y berthynas synhwyrus sydd rhyngddo a’r môr, ad, ar eu mwyaf arbrofol, gan greu ffurfiau newydd trwy gyfuno model gyda'r dirwedd o amgylch a nodweddion naturiol. Maent yn ganlyniad i broses o ofal a chrefft, amynedd a dyfalbarhad, o frwydro yn erbyn llanw, amser ac amodau i gyflawni'r rhyfeddol.

Ffynhonnell: Body Rock Sand

Gobethiwn y byddwch yn profi ART WORKS a hefyd BODY ROCK SAND.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.