Interpreter Liz May tells us of the importance of BSL

Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yw Liz May ac fe’i gwelir yn aml ar ein llwyfan yma yn Theatr y Torch. Ym mis Chwefror eleni bydd yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad o’r enw ‘Us and Them’ gan Gwmni Dawns Ransack ar ein llwyfan. Anfonon ni Anwen i’w holi am bwysigrwydd BSL yn y celfyddydau heddiw ….

Dywedwch ychydig wrthym am Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Mae BSL yn iaith hardd. Mae ganddi ei strwythur gramadegol a'i chystrawen unigryw ei hun. Mae'n iaith gyfoethog ac amrywiol. Nid yw BSL yn gysylltiedig â Saesneg llafar ac mewn gwirionedd mae ganddi strwythur hollol wahanol, ond y person gorau i siarad am BSL yw person byddar. Nid oes unrhyw ddau berson byddar yn arwyddo'r un peth ac mae gan yr iaith wahaniaethau rhanbarthol, yn union fel y mae gan ieithoedd llafar dafodieithoedd rhanbarthol. Wrth ddefnyddio BSL, nid eich dwylo chi yn unig sy'n rhan o'r arwyddion, Symudiad, lleoliad, cyfeiriadedd, a lleoliad, yn ogystal â nodweddion wyneb ac iaith y corff.

Gobeithio yn y dyfodol agos, y bydd yn cael ei ymgorffori yn addysg ein plant. Mae fy nau o blant yn arwyddo gan fod gen i nifer o ffrindiau sy'n fyddar, ac rwy'n meddwl ei bod yn bwysig eu bod yn dod i gysylltiad ag ef ac yn ei ddysgu yn ifanc.

Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu BSL a pham?

Rwyf wedi adnabod sillafu bys ac ychydig o arwyddion ers yn ifanc, ond yn 2005 syrthiais mewn cariad â BSL.

Roedd gan ffrind fy merch yn yr ysgol riant byddar, ac fe wnethom ddod yn ffrindiau. Penderfynais ymuno â dosbarth, ac nid wyf wedi edrych yn ôl. Roeddwn i'n gweithio o fewn y gymuned fyddar fwy neu lai o'r dechrau. Yr hyn rydw i wir yn ei fwynhau am ddehongli, yw gallu cyfuno fy hen fywyd gyda’r un newydd. Cefais fy magu yn y theatr fel dawnswraig, cantores ac actores, ac yna mynd ymlaen i'w gwneud yn broffesiynol. Ar hyn o bryd rwy'n dehongli mewn theatrau yn ogystal â gweithio gyda dau gwmni dawns sy'n ymgorffori BSL yn eu holl ddarnau o waith sy'n cynnwys deialog. Rwy'n cael dawnsio ychydig eto hefyd!

Pa mor bwysig yw hi fod cynyrchiadau yn cynnwys BSL?

Mae angen i'r theatr, a'r celfyddydau yn gyffredinol fod yn fwy cynhwysol. Fel y dywedais eisoes, mae’n iaith weledol hardd a gall gyfoethogi perfformiad, yn ogystal â rhoi mynediad i’r gymuned fyddar. Mae cymaint y gaiff pobl o’r celfyddydau, pam na ddylai’r gymuned fyddar gael mynediad hefyd? Gall dehonglydd theatr gyfleu pob rhan o'r cynhyrchiad ar ffurf BSL - yr emosiwn, teimlad y cymeriadau, sut y gall stori effeithio ar fywyd rhywun.

Sut mae cynyrchiadau BSL yn wahanol i gynyrchiadau eraill?

Mae’n dibynnu a yw’n BSL integredig neu a oes dehonglydd ar ochr y llwyfan. Rwy'n gwneud y ddau, neu fe allech chi gael aelodau o’r cast yn arwyddo hefyd. Mae cymaint o wahanol ffyrdd o sicrhau mynediad. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda chwmnïau sy'n cyflogi actorion/dawnswyr byddar. Mae'r rhai hyn eto wedi'u strwythuro'n wahanol. Bydd gan bobl fyddar eu hoffterau eu hunain o ran pa fath o gynhyrchiad y maent yn ei fwynhau.

Byddwch yn cymryd rhan yn Ransack sy’n cynnwys BSL – beth fyddwch chi’n ei wneud? A pha gymeriad / rhan fyddwch chi'n ei chwarae?

Rwyf wedi mwynhau fy amser gyda Ransack yn fawr. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, ond dyma'r tro cyntaf i mi fod yn y perfformiad go iawn gyda'r dawnswyr. Rwyf yn ymddangos yr hanner cyntaf, ac mae'r dawnswyr yn arwyddo eu hunain. Mae yna bwynt yn y cynhyrchiad rydyn ni'n ei alw'n gyfarwyddiadau, rydw i'n cyfieithu'r hyn y mae'r gynulleidfa sy'n clywed yn ei glywed. Mae wedi ei integreiddio gyda'r dawnswyr a dw i'n gwneud ychydig bach o ddawnsio hefyd.

Ydy BSL yn fwy poblogaidd mewn cynyrchiadau y dyddiau hyn nag oedden nhw rai blynyddoedd yn ôl?

Mae'n llawer mwy poblogaidd nawr nag y bu erioed. Er, flynyddoedd yn ôl, gwyliais gynhyrchiad a oedd wedi integreiddio arwyddo ynddo. Er hynny, rwy'n meddwl ei fod yn cael mwy o sylw yn y wasg nag erioed. Ond rhaid i'r wybodaeth sy'n cael ei hyrwyddo fod yn gywir, neu fe allai wneud mwy o ddrwg nag o les.

Os mae pobl am ddysgu BSL, sut maen nhw'n mynd ati?

Mae yna ganolfannau ar draws y DU sy'n cynnal cyrsiau, colegau, prifysgolion. Mae wir yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a pha fath o ddysgu rydych chi'n edrych amdano. Mae Signature yn un llwybr y gallwch chi ei ddilyn. Maent yn gweithio ochr yn ochr â'r NRCPD, sy'n dal y gofrestr o ddehonglwyr. Bydd gan ddehonglydd cwbl gymwys fathodyn melyn a bydd gan yr hyfforddai un porffor. Rhaid i chi ddal un o'r rhain i ddehongli'n broffesiynol.

A ddylai BSL fod yn orfodol mewn ysgolion fel rhan o'r cwricwlwm?

Cant y cant fe ddylai, ond rhaid iddo gael ei addysgu gan weithiwr proffesiynol byddar. Mae llawer o wahaniaeth diwylliannol rhwng Saesneg a BSL. Weithiau mae'r gwahaniaethau hyn yn cael eu hanghofio. Fel person sy'n clywed, ni allaf siarad o brofiad, ac i mi mae hynny'n bwysig iawn. Byddai gan y rhan fwyaf o ddehonglwyr yr un farn. Sut gall rhywun ddysgu rhywbeth nad yw erioed wedi ei brofi, dim ond person byddar all wneud hynny. Fy marn i y dylid ei ddysgu mewn ysgolion cynradd gan fod plant yn amsugno llawer mwy o wybodaeth pan fyddant yn ifanc, heb sylweddoli hynny.

Bydd Us and Them yn Theatr y Torch nos Wener 2 Chwefror am 7.30pm yn archwilio undod a gwahaniad. Sut rydyn ni'n cysylltu â rhai pobl trwy rannu profiadau, tra'n datgysylltu ag eraill trwy greu rhwystrau.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.