CARU EICH THEATR LEOL

Theatr y Torch yn ymuno â’r cynnig tocyn 2-am-1 mwyaf erioed i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol trwy ymgyrch Caru Eich Theatr Leol UK Theatre

  • Mae Theatr y Torch wedi ymuno â dros 100 o theatrau ar draws y DU ar gyfer yr ymgyrch newydd, y mae’r Loteri Genedlaethol yn darparu hyd at £2 filiwn ar ei chyfer i roi cymhorthdal i dros 150,000 o docynnau ledled y DU
  • Drwy gydol mis Mawrth, gall chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gael tocynnau theatr 2-am-1 ar gyfer perfformiadau o sioeau gan gynnwys One Night in Dublin, Thank ABBA for the Music a Shirley Valentine.
  • Gyda chefnogaeth y cyflwynydd teledu, cantores Girls Aloud a seren y llwyfan Kimberley Walsh, mae'r ymgyrch yn annog y cyhoedd i gefnogi theatrau lleol wrth iddynt wella o'r pandemig.

Mae Theatr y DU wedi lansio Caru Eich Theatr Leol, ymgyrch newydd yn annog y cyhoedd i gefnogi eu theatrau lleol wrth iddynt ddechrau gwella o effaith Covid. Mae Theatr Torch Aberdaugleddau wedi ymuno â dros 100 o theatrau ar draws y DU i gynnig y cynnig tocyn 2-am-1 mwyaf erioed i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n mynychu sioe yn ystod mis Mawrth.

Mae’r ymgyrch, sy’n cael ei rhedeg gan gorff aelodaeth theatr blaenllaw Theatr y DU ac a wnaed yn bosibl gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol, yn darparu hyd at £2 filiwn i roi cymhorthdal i dros 150,000 o docynnau ar draws y DU. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cael cynnig y cyfle i brynu un tocyn a chael un arall am ddim ar gyfer sioeau sy’n cymryd rhan fel diolch am y £30 miliwn y maent yn ei godi bob wythnos ar gyfer Achosion Da, gan gynnwys cefnogaeth i’r celfyddydau perfformio a theatrau yn ystod y pandemig.

O sioeau cerdd clasurol a dramâu annwyl i sioeau teuluol, comedi, dawns a mwy, mae Caru Eich Theatr Leol wedi dod â theatrau lleol o bob rhan o’r DU ynghyd i roi cyfle i chwaraewyr brofi hud adloniant byw am lai y gwanwyn hwn, tra’n rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymunedau adloniant lleol.

Yn ogystal â’r gefnogaeth gref gan theatrau ledled y DU, mae Caru Eich Theatr Leol hefyd yn cael ei gefnogi gan y cyflwynydd teledu, y gantores a seren Girls Aloud, Kimberley Walsh. Mae hi wedi mwynhau perfformio mewn theatrau a lleoliadau adloniant ar draws y DU, y mae llawer ohonynt wedi derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol.

Meddai Stephanie Sirr, Llywydd Theatr y DU: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Loteri Genedlaethol ar Caru Eich Theatr Leol, y tro cyntaf i aelodau Theatr y DU ar draws y wlad uno ar gyfer hyrwyddiad tocynnau o’r maint hwn. Dylem fod yn hynod falch yn y wlad hon fod gennym ystod mor eang, bywiog ac amrywiol o theatrau rhanbarthol, sydd oll yn chwarae rhan hanfodol yn nhirwedd theatr y DU a thu hwnt. Yn dilyn dwy flynedd mor gythryblus, rydym am weiddi am y ffaith bod theatrau’n agor ac yn barod i wobrwyo cynulleidfaoedd am eu hamynedd a’u teyrngarwch - dewch i’ch theatr leol a’u helpu i barhau i wneud gwaith creadigol gwych!”

Meddai Kimberley Walsh, cyflwynydd Teledu, Cantores Girls Aloud a seren y llwyfan“Rydym mor freintiedig i gael cymaint o theatrau a lleoliadau adloniant anhygoel r draws y DU. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i berfformio mewn nifer ohonynt. Heb ein theatrau lleol, byddai wyneb adloniant y DU yn edrych yn wahanol iawn ac mae’n anhygoel bod y Loteri Genedlaethol yn darparu £2 filiwn i’w cefnogi. Cafodd y diwydiant adloniant ei effeithio’n arbennig gan y pandemig, a dyna pam mae’r ymgyrch Caru Eich Theatr Leol mor bwysig i gefnogi eu hadferiad.”

Ychwanegodd Nigel Railton, Prif Weithredwr y Loteri Cenedlaethol a gweithredwr Camelot: “Mae diwydiant adloniant y DU gyda’r gorau yn y byd diolch i’r amrywiaeth enfawr o leoliadau a phrosiectau ar draws y pedair gwlad. Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn yr wythnos i helpu i ariannu Achosion Da, y mae llawer ohonynt yn gorwedd yn y diwydiant adloniant. Mae’r Loteri Genedlaethol yn falch o fod wedi ymuno a Theatr y DU i lansio’r ymgyrch Caru Eich Theatr Leol, gan roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar theatrau lleol i fynd ar y llwybr i adferiad yn dilyn y pandemig, tra’n dweud diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sydd wedi helpu i gefnogi nifer o theatrau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Mae hyrwyddiad Caru Eich Theatr Leol ar gael i unrhyw un sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol ac yn meddu ar docyn Loteri Genedlaethol. O'r 1af o Chwefror, gall chwaraewyr brynu tocynnau mewn perfformiadau sydd ar gael yn ystod mis Mawrth. Am fanylion llawn am yr holl sioeau theatr sydd ar gael yn arlwy Theatr y Torch, cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.