PANTO THEATR Y TORCH YN ADDO CEFNOGAETH I’R IAITH GYMRAEG

Mae mwy a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar y Gymraeg yn y gweithle ac eleni, bydd pantomeim Nadoligaidd Theatr y Torch, Beauty and the Beast, yn cynnwys rhai ymadroddion Cymraeg. Y gobaith yw y bydd y brawddegau byr hawdd eu deall yn ychwanegu at ‘hwyl’ y perfformiad ac yn cael pobl i sgwrsio yn Gymraeg.

Mae'r geiriau a'r ymadroddion a ddefnyddir yn hwyl ac yn eithaf cofiadwy gyda brawddegau fel ‘Mae pen tost gyda fi’; ‘Mae clust dost gyda fi’ ac ‘Mae bola tost gyda fi’ fel mae Cyfarwyddwr Artistig Beauty and the Beast, Chelsey Gillard yn esbonio ….  

“Rwy’n falch iawn o gynnwys rhywfaint o Gymraeg sgyrsiol yn y panto eleni. Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o’n diwylliant ac mae wedi bod yn anhygoel gweld y fath dwf yn nifer y dysgwyr Cymraeg yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ein fersiwn ni o Beauty and the Beast wedi’i lleoli’n gadarn yn Sir Benfro, felly mae’n iawn fod y sgript yn adlewyrchu’r bobl sy’n byw yn Sir Benfro, yn enwedig ein cynulleidfaoedd iau a fydd yn adnabod yr ymadroddion a ddefnyddir o’u dysgu eu hunain.”

Mae Menter Iaith Sir Benfro yn fenter sy’n hybu’r Gymraeg yn y sir, ac mae ei Phrif Swyddog, Rhidian Evans yn meddwl bod cyflwyno ymadroddion a geiriau Cymraeg hawdd eu deall yn y perfformiad yn ffordd wych o gyflwyno’r iaith.

​Meddai: “Mae’r ffaith bod pantomeim Theatr y Torch eleni yn cynnwys brawddegau Cymraeg yn rhywbeth i’w groesawu. Mae’n dangos bod yr iaith Gymraeg yn iaith i bawb ac yn iaith sy’n cael ei defnyddio gan gynulleidfaoedd Sir Benfro.” 

Mae cynnydd yn nifer y rhai sy’n dysgu Cymraeg drwy Dysgu Cymraeg Sir Benfro  ac i Rhidian a’r Fenter Iaith, mae hyn yn beth positif iawn.

Ychwanegodd: “Mae defnyddio Cymraeg yn y gweithle yn bwyisg hefyd gyda busnesau Sir Benfro yn gweld budd o gynnwys y Gymraeg ar arwyddion, bwydlenni ac wrth siarad gyda chwsmeriaid. Mae gennym ganlyniadau Cyfrifiad 2021 erbyn hyn ac mae’r rheiny’n gallu rhoi darlun cliriach ar y Gymraeg o fewn wahanol gymunedau o fewn y sir ac yn gymorth wrth i’r Fenter a phartneriaid eraill gynlllunio tuag at y blynyddoedd nesaf.”

Bob ail ddydd Mawrth o'r mis, ac eithrio mis Medi, mae Theatr y Torch yn cynnal Coffi Cymraeg, sesiwn awr o hyd o i bobl ddod at ei gilydd dros baned a chacen mewn awyrgylch hamddenol sy'n agored i bawb. Bydd sesiwn mis Rhagfyr yn defnyddio a thrafod rhai o ymadroddion y pantomeim Cymraeg.

“Rwy’n mwynhau fy nhaith dysgu Cymraeg yn fawr. Mae'n rhoi boddhad mawr pan allwch chi gynnal sgwrs syml ac yn Coffi Cymraeg, mae pawb yn helpu mewn ffordd mor gefnogol a chalonogol,” meddai Cydlynydd Rhaglen Artistig Theatr y Torch, Janine Grayshon sy'n edrych ymlaen at weld cyfranwyr hen a newydd yn y sesiwn Coffi Cymraeg ym mis Rhagfyr eleni.

Bydd Beauty and the Beast yn gwneud ei ffordd hudolus i lwyfan Theatr y Torch o nos Wener 15 Rhagfyr i ddydd Sul 31 Rhagfyr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol - Dydd Sadwrn 16 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli BSL - Dydd Mawrth 19 Rhagfyr am 6pm.

Nodwch: Mae Aelodau'r Torch yn cael 25% oddi ar hyd at bedwar tocyn a brynwyd ar gyfer Beauty and the Beast.

Pris tocynnau arferol yw £22.50 | £19.00 CONS | £70.00 TEULU. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.