LITTLE FOOLS
Mae’n bleser gennym groesawu’r artist lleol Pauline le Britton fel ein harddangoswr yn Oriel Johanna Field yn ystod mis Rhagfyr.
Mae Pauline yn artist cyfrwng cymysg sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro. Gyda BA mewn Cerflunio o Ysgol Gelf Norwich, ac MA o’r Coleg Celf Brenhinol, disgrifia Pauline ei gwaith fel rhywbeth myfyriol.
“Mae llonyddwch wrth i mi geisio dal gafael ar eiliad ac arafu treigl amser. Rwy’n archwilio atgofion plentyndod, chwarae a hiraeth – yn aml trwy senarios rhyfedd, maint bywyd a ffigurau papier-mâché. Gan dynnu o ystod eang o ddisgyblaethau, mae fy themâu yn siglo rhwng yr hyn sy’n teimlo’n gyfarwydd a’r hyn sy’n gyffredin, a’r anghyfarwydd – teyrnas sydd â thro tywyll yr anhysbys. Defnyddiaf gyfeiriadau o’r gorffennol i archwilio’r gweladwy a’r anweledig ac yn ceisio dal cyflyrau rhwng y ddau – yn aml yn gweithio mewn ymateb i thema neu amgylchedd penodol.”
Gweithia Pauline yn annibynnol ac mewn ysgolion, yn ogystal â chydweithio ag artistiaid eraill. Ym 1998 cyd-sefydlodd Sand Palace Arts, cydweithfa gelf sy’n ceisio cyflwyno digwyddiadau celfyddydol creadigol ac ysbrydoledig, mewn dull croesawgar a chynhwysol.
Chwe blynedd yn ôl cafodd Pauline y cyfle i ddychwelyd i'r arfer o gastio efydd ac ymunodd â thîm bach yn MB Fine Arts, ffowndri yng Nghlunderwen. Meddai Pauline wrthym: “Mae wedi gwella fy sgiliau fel artist yn sylweddol ac wedi siapio fy nghasgliad diweddar o waith ac rwyf mor ddiolchgar am hynny. Yn ddiweddar rwyf wedi dod o hyd i gysur yn nhrysorau’r llanw.”
Mae Oriel Joanna Field ar agor i’r cyhoedd pan fydd y Swyddfa Docynnau ar agor drwy gydol mis Rhagfyr.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.