Prif Gynhyrchiad Newydd yn Theatr Torch - Mor Donnog â’r Mȏr

Yn dilyn pantomeim Nadoligaidd Beauty and the Beast a dorrodd record y llynedd, mae Cyfarwyddwr Artistig gwobrwyedig Theatr Torch, Chelsey Gillard yn dychwelyd i’r ystafell ymarfer am gynhyrchiad newydd sbon wedi ei ysbrydoli gan faterion sy’n wynbeu pentrefi glan mȏr yn Sir Benfro, fel Cwm-yr-Eglwys yng ngogledd y sir. Mae Kill Thy Neighbour yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Torch a Theatr Clwyd a bydd yn achosi tipyn o godi aeliau a gemau dyfalu ym mis Ebrill a Mai hwn.

Gan archwilio pynciau llosg sy’n effeithio ar lawer ohonom mewn pentrefi gwledig, trefi ac ardaloedd arfordirol ledled Cymru heddiw, mae prif thema’r comedi gyffro Kill Thy Neighbour yn ymwneud ag erydiad araf ardaloedd preswyl, gan ddod yn safleoedd ar gyfer tai haf a thwristiaeth. Mae’r themâu hyn yn cael eu portreadu yn y ddrama hon am gariad, llofruddiaeth a theimlo’n gaeth yn eich bywyd eich hun.

“Yn gyntaf, mae Kill Thy Neighbour yn ddrama ddifyr iawn a fydd, gobeithio, yn cael y gynulleidfa i chwerthin a dyfalu beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf. Weithiau rydyn ni’n tanbrisio adloniant, ond mae mor bwysig,” meddai Chelsey Gillard wrth iddi drafod y ddrama yn Theatr Torch yr wythnos hon.

Wedi’i hysgrifennu gan Lucie Lovatt a aned yn Wrecsam, rhediad cyfyngedig Kill Thy Neighbour yw drama lawn gyntaf Lucie. Yn ddoniol ac yn arswydus, mae’r cyd-gynhyrchiad newydd mawr wedi’i grefftio’n hyfryd fel yr eglura Chelsey:

“Mae gan ysgrifennu newydd ei heriau ei hun wrth gwrs. Gyda dramâu clasurol, yn aml mae’n ymwneud â chreu eich tro eich hun ar y chwedl adnabyddus, gydag ysgrifennu newydd mae’n ymwneud â chyflwyno’r ddrama i’r byd, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gweld yr holl ddisgleirdeb y mae’r awdur wedi’i roi yn y sgript. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gydag awduron ar ddramâu newydd, mae'n teimlo eich bod chi'n gallu siarad yn uniongyrchol â'r byd fel y mae nawr ac mae hynny mor gyffrous. Mae’n anrhydedd i mi gael ei chyfarwyddo, yn enwedig i’n cynulleidfaoedd yn Sir Benfro a fydd â phrofiad uniongyrchol â pherchnogaeth ail gartrefi.”

Bydd Kill Thy Neighbour, sy’n cael ei pherfformio gan gast llawn sêr yn Theatr Torch, Aberdaugleddau rhwng 24 Ebrill a 4 Mai, yn ysgogi pobl ac yn gwneud iddynt feddwl pa mor bwysig yw byw mewn cymuned wledig, gefnogol mewn gwirionedd.

Ychwanegodd Chelsey, a oedd wedi gwirioni â’r ddrama o’r cychwyn cyntaf: “Mae’r themâu yn adlewyrchu cymaint o’r hyn sy’n digwydd ar draws y wlad ar hyn o bryd, gyda phentrefi a threfi’n wag am ran helaeth o’r flwyddyn. Mae fel llythyr caru at gymunedau sy’n gofalu am ei gilydd, yn dathlu gyda’i gilydd ac yn rhannu’r amserau caled. Gallem oll wneud gyda nodyn atgoffa o ba mor dda yw adnabod (ac nid lladdl!) eich cymdogion.”

Gan orffen, dywedodd Chelsey: “Rwy’n gobeithio y bydd aelodau’r gynulleidfa yn parhau i siarad am y ddrama drannoeth yn y gwaith, yn y siop, o amgylch y bwrdd cinio. Yr eiliadau a'u synnodd, yr hyn a gawsant yn ddoniol, pa gymeriad y maent yn ochri ag ef! Yn bennaf rwy'n gobeithio y cânt noson allan wych a chofiwch ddweud wrth y bobl rydych chi'n eu caru, cymaint maen nhw'n eu olygu i chi. Ychydig yn faldodus ond yn wir.”

Bydd Kill Thy Neighbour yn cael ei pherfformio yn Theatr Torch, Aberdaugleddau, o 24 Ebrill – 4 Mai 2024. Tocynnau’n £23. Consesiynau: £20. O dan 26: £10. Yn addas ar gyfer oed 14+ gan fod y sioe yn cynnwys iaith gref a chyfeiriadau at lofruddiaeth.

Perfformiad Dehongliad BSL - 2 Mai (Dehongliad gan Liz May). Gellir archebu tocynnau oddi ar wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk neu drwy ffonio 01646 695267.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.