Rhys Ifans yn Cefnogi'r Torch
Mae Rhys Ifans, a aned yn Sir Benfro, yn ymuno â Theatr y Torch ac wedi dod yn un o’n noddwyr diweddaraf. Yn enwog yn fyd-eang, efallai bod Rhys yn fwyaf adnabyddus yn fasnachol am ei berfformiad gwych yn ‘Notting Hill’ (1999) gan Roger Michell am y portread o Spike, cyd-letywr Hugh Grant, lle bu’n serennu gyferbyn â Julia Roberts a Hugh Grant.
Treuliodd ei amser yn tyfu i fyny gyda’n ffrindiau a’n partneriaid yn Theatr Clwyd lle dysgodd ei grefft a lle mae hefyd yn noddwr.
Mae Rhys yn actor dawnus sy’n adnabyddus am ei bresenoldeb parhaol, ei agwedd nodedig at gomedi a’i allu i ddiflannu’n gain i rolau cymhellol a chymhleth sydd bob amser yn gofiadwy. Mae Rhys newydd orffen ffilmio’r ail gyfres, ‘House of the Dragon’ yn chwarae Hand of the King, Otto Hightower yn fuan ar ôl ffilmio ‘Inheritance’ ffilm nodwedd Miramax sy’n serennu ochr yn ochr â Phoebe Dynevor o Bridgerton. Bydd Rhys hefyd yn serennu yn ‘Nyad’, ffilm ddrama chwaraeon fywgraffyddol sydd ar ddod wedi’i chyfarwyddo gan Jimmy Chin ac Elizabeth Chai Vasarhelyi gyda Jodie Foster ac Annette Benning allan yn hwyrach yn y flwyddyn.
Dywedodd Benjamin Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Torch:
“Rydym wrth ein bodd bod un o’n prif actorion wedi ymuno â’r alwad i amddiffyn y Torch fel un o asedau diwylliannol mwyaf annwyl Cymru. Edrychwn ymlaen at gael Rhys fel ein noddwr ac i’w gael i ymweld â’r Torch.”
Wrth sôn am ei rôl fel noddwr, meddai Rhys: “Mae’n anrhydedd enfawr cael bod yn noddwr i Theatr Torch ac i gefnogi’r adnodd amrhisiadwy yma i’r gymuned leol ac i Gymru gyfan. Boed iw fflam barhau i losgi’n llachar.”
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.