RICHARD HARDISTY - SILLY BOY

Yn ei awr gyntaf agos-atoch a hynod ddisgwyliedig, mae’r actor, awdur a digrifwr Rich Hardisty (Channel 4, Netflix, BBC) yn ein harwain ar daith drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei fywyd anarferol yn Theatr y Torch ar nos Wener 28 Ebrill gyda’i sioe ddoniol ond eto emosiynol Silly Boy.

Ond ni fyddwch yn dod o hyd i unrhyw hunan-dosturi na chasineb yma…dyma ddathliad o harddwch a gwiriondeb y cyfan a’r pethau diddorol, doniol ac weithiau brawychus y gall ei ymennydd ei gyflawni (os ydyw’n dymuno hynny ai peidio). Ar yr wyneb, yn agored ac yn onest ond yn bwysicaf oll...DONIOL!

Disgwyliwch hanesion ac arsylwadau am ffilmiau pwysig, tadau coll a mania, y cyfan oll o'i safbwynt cynnes, chwilfrydig, plentynnaidd. Mae Rich yn ceisio cyfleu sut mae salwch meddwl yn edrych ac yn teimlo, gan ddathlu harddwch a ffolineb y cyfan.

Wedi’i chyflwyno gan Little Wander mewn cydweithrediad â PBJ Management, mae’r cynhyrchiad hwn yn addas ar gyfer rhai 18 oed a hŷn ac yn cynnwys themâu iechyd meddwl, anhwylder bwyta a chamddefnyddio cyffuriau.

Disgrifiwyd fel ‘hard to beat, deeply affecting and candidly hilarious” a rhoddwyd pedair seren gan y Scotsman, a disgrifiwyd hefyd fel ‘modern-day philosopher…a raw, emotive and incredibly funny storyteller,’ gan Entertainment now, rhaid gweld Silly Boy.

Bydd Richard Hardisty – Silly Boy yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Wener 28 Ebrill am 8pm. Tocynnau £12. Gellir eu prynu o’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk. 

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.