Sioe Anghonfensiynol Yn Edrych Ar Y Peryglon O Geisio Cael y Cyfan

"Dydw i ddim yn dweud nad ydw i'n brydferth. Rwy'n dweud fy mod i'n dew AC yn brydferth." –

Dewch i gwrdd â Rachel - actores 20-rhywbeth o Boro y mae ei drama un fenyw ddoniol, dathliadol a phwerus yn wleidyddol yn archwilio ei phrofiad bywyd go iawn o godi pwysau o faint wyth i 18.

Wedi ei hysgrifennu a’i pherfformio gan Rachel Stockdale a’i chyfarwyddo gan Jonluke McKie, bydd Fat Chance yn Theatr Torch, Aberdaugleddau ar ddydd Mercher 3 Ebrill yn gofyn pob math o gwestiynau ac yn codi aeliau.

O nerfau clyweliad a sylwadau taflu i ffwrdd i dorri coes yn llythrennol mae'r ddrama hon ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo bod yn rhaid iddynt grebachu eu hunain; unrhyw un sydd wedi addasu i fod yn fwy dymunol i eraill; unrhyw un sydd erioed wedi codi neu golli pwysau ac wedi cael eu trin yn wahanol; unrhyw un a gafodd ginio ysgol am ddim ac unrhyw un sy’n teimlo nad ydyn nhw’n ffitio.

Wedi derbyn adolygiad hynod gan North East Bylines a wnaeth rhoi pum seren i’r ddrama ac fe’i disgrifiwyd gan The Arts Business fel “Cynhyrchiad cyntaf rhyfeddol,” mae Fat Chance un o’r sioeau hynny sydd rhaid ei gweld.

Ac fel me NARC Magazine yn ysgrifennu, pam newid ein hunain?

“Yn cyfosod tristwch a chwerthin, mae stori Rachel yn siarad â phawb am sut rydyn ni’n edrych arnom ni ein hunain ac eraill, gan ofyn y cwestiwn ‘Yn lle ceisio newid chi’ch hunain, beth am geisio gweld y harddwch nawr?’ Mae harddwch yn y perfformiad hwn. Fel Rachel, gadewch i ni hyrwyddo harddwch a thalent lle bynnag rydyn ni'n dod o hyd iddyn nhw.

“Mae’r sgript wedi’i hystyried yn dda... gan fynd â’r gynulleidfa ar daith fyrlymus drwy fywyd a brwydrau’r ferch ifanc hynod ystyfnig hon (ei geiriau hi – a byddwn yn ychwanegu ‘dyfeisgar’), gan ddatrys sut mae llwyddo gyda dewis gyrfa sydd weithiau’n teimlo’n debycach i hunan-niweidio na dim byd arall.”

Caiff Fat Chance ei pherfformio ar lwyfan Theatr y Torch ar nos  Fercher 3 Ebrill am 7.30pm. Yn addas ar gyfer 14+. Yn cynnwys iaith gref a themau oedolion yn cynnwys "bwyta anhrefnus (sef diwylliant diet)".

Prisiau tocyn: £13. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.