Stori dorcalonnus a phwysig am ŵr rydym wedi anghofio amdano...
Mae Theatr y Torch, Aberdaugleddau yn edrych ymlaen at groesawu perfformiad Saesneg y sioe un dyn Carwyn nos Fawrth 31 Hydref. Roedd Carwyn James yn un o gewri Cymru, fel hyfforddwr rygbi disglair ac arloesol a dyn oedd yn caru ei dir, yr iaith a’i wlad.
Archwilia’r ddrama, un o bedair drama gan Gynyrchiadau Theatr y Torch a berfformiwyd yn Sir Benfro eleni, bywyd dyn oedd yn fwy na chymeriad mewn rygbi; yn athro, darlledwr, hyfforddwr, a hyd yn oed ysbïo ac fe'i cyflwynir gan Bale a Thomas, mewn cydweithrediad â Theatr y Torch, Theatr Felinfach a Theatrau RhCT. Bydd yn teithio ledled Cymru yn ystod mis Hydref ac yn ymweld â Sir Benfro ddiwedd y mis hwn.
Bydd y sioe gan y dramodydd Owen Thomas yn adrodd stori bwysig bywyd Carwyn James 40 mlynedd ers ei farwolaeth gyda’r actor Simon Nehan yn dod â Carwyn yn fyw ar lwyfan. Cynllunydd y sioe yw Tegan Reg James a Ceri James yw’r cynllunydd golau (wyneb cyfarwydd yn Theatr y Torch ar ôl gweithio ar Private Lives yn y Torch y mis hwn).
Dywedodd Gareth John Bale, Cyfarwyddwr Carwyn: “Ni'n falch iawn o'r cyfle i deithio'r sioe ledled Cymru. Fe fyddwn ni'n perfformio 18 sioe mewn 15 theatr ar hyd y wlad. Dyw e ddim cweit mor hir â theithiau rygbi'r Llewod ond mae e dal yn her i ni. Ni'n edrych mlaen i atgoffa bobol am yr athrylith, Carwyn James."
Roedd Carwyn yn ddyn a oedd yn addoli chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth, dyn oedd yn caru Cymru. Gwnaeth argraff arbennig ar ei wlad a’r iaith Gymraeg yn ystod ei fywyd.
Croeso i chi ddilyn ‘Carwyn The Play’ ar Facebook, X (Twitter) ac Instagram.
Caiff sioe Carwyn ei pherfformio yn Theatr y Torch ar nos Fawrth 31 Hydref am 7.30pm. Tocynnau Llawn £17 / Consesiwn@ £16. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.