YSGOLION HAF MIS AWST THEATR IEUENCTID

Mae Theatr y Torch yn falch iawn o gyhoeddi rhaglen o Ysgolion Haf Drama, Dawns a Theatr Gerddorol i blant a phobl ifanc, a gynhelir ym mis Awst eleni yn y Torch. Bellach gellir archebu lleoedd ar gyfer hwyl yr haf gyda ffrindiau newydd, creadigrwydd di-ben-draw a llawer o ddysgu. 

Eleni, fe fydd Ysgol Haf y Torch yn cynnwys y canlynol:

Mae Gweithdai Drama’r Torch wythnos o hyd yn cael eu harwain gan arbenigwyr o’r diwydiant a daw’r ddwy wythnos i ben mewn perfformiad rhannu ar lwyfan Theatr y Torch gyda gwahoddiad i rieni a gwarcheidwaid ddod draw i wylio (am ddim). 

Mae’r sesiynau beunyddiol yn cael eu harwain gan ddrama ac yn cynnwys hwyl, gemau, heriau a chyfleoedd i ddysgu sgiliau drama newydd a pherfformio mewn amgylchedd diogel – popeth y byddech yn ei ddisgwyl gan y Theatr Ieuenctid y Torch.

Mae Ysgol Haf Ddrama Theatr Ieuenctid Iau, ar gyfer plant 7 i 10 oed, yn ystod yr wythnos:

Dydd Llun 1af i Ddydd Gwener 5ed Awst – o 9.30am i 4.00pm.
Y gost fydd £60 y plentyn/ £50 sibling oedran 7 - 10

Cynhelir Ysgol Haf Ddrama Theatr Ieuenctid Hŷn ar gyfer disgyblion 11 i 16 oed yr wythnos ganlynol ar:

Ddydd Llun 8fed – Dydd Gwener 12fed Awst – o 9.30am i 4.00pm

Y gost ar gyfer y ddau weithdy wythnos o hyd yw £60 y plentyn a £50 i frawd neu chwaer ar gyfer grwpiau oedran Iau ac Hŷn.

Ysgol Haf Joon Dance yn y Torch

Os mai dawns yw’r peth gorau i chi, yna beth am bedwar gweithdy diwrnod o hyd yn dysgu ‘Odette’s Revenge’, sy’n ddilyniant modern i Swan Lake ac eto, fydd yn arwain at sioe. Mae Joon Dance wedi bod yn ymwelwyr cyson â Theatr y Torch ac mae Zosia, sy’n rhedeg y cwmni, yn uchel ei pharch ac mae ganddi ddilynwyr ffyddlon. Gallwch ddarganfod mwy am yr Ysgol Haf Ddawns trwy e-bostio Zosia yn joondance@gmail.com neu drwy ymweld â’r wefan yma.

Gall plant a phobl ifanc o bob oed fynychu: 

Joon Bugs oed 6-10, Jooniers oed 12-16, Joon Ieuenctid/Aur 16+ (heb unrhyw derfyn oedran uwch) 

Dyddiadau ar gyfer yr Ysgol Dawns yr Haf yw: 
Dydd Llun Awst 15fed - Dydd Iau Awst 18fed: 10yb - 1yp, a diwrnod y sioe ymlaen
Dydd Gwener 19eg Awst o 1pm ymlaen gyda'r sioe ar yr un diwrnod am 7.30pm. 

Y gost i bawb sy’n mynychu’r gweithdai yw naill ai’r pris cymorth o £85 (i helpu Joon Dance i ddod dros y pandemig a chefnogi gwaith yn y dyfodol) neu’r pris safonol o £75.

Pris consesiynau a brawd neu chwaer: £65 (gostyngiadau i ddau aelod o'r un teulu agos) neu bris teulu: £55 (lle mae tri neu fwy o aelodau'r un teulu agos gyda'i gilydd). Mae tocynnau i fynychu’r perfformiad yn costio £6.00.

Ysgol Haf Wythnos Theatr Gerddorol i gynhyrchu Legally Blonde Junior! 

Dydd Llun 22 Awst i ddydd Gwener 26 Awst yw gweithdy theatr gerdd Theatr y Torch a fydd yn arwain at rannu perfformiad i rieni a gwarcheidwaid ar y diwrnod olaf.

Yn cael ei rhedeg gan y cyfarwyddwr cerdd a hyfforddwr llais, Angharad Sanders (Lleisiau’r Torch) gyda chefnogaeth gan yr ymarferydd Drama o Sir Benfro, Lucy O’Neill, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gweithio gyda’i gilydd i greu’r sioe gerdd Legally Blonde Junior mewn wythnos!

Ar gyfer plant a phobl ifanc 10 oed a throsodd, bydd gweithdai yn cael eu cynnal o 9.30am tan 4.00pm a’r pris yw £75 y plentyn / £65 brawd neu chwaer heb unrhyw dâl am berfformiad diwedd wythnos. 

Rydym hefyd y cynnig pris gostyngedig ar brynu lluosog: £115 y plentyn | £100 sibling – i fynychu Gweithdai Theatr Ieuenctid Hŷn ac wythnos Theatr Gerddorol.

Mae nifer y llefydd yn gyfyngedig ar gyfer Wythnosau Ysgol Haf Theatr y Torch a rhaid archebu lle yn bersonol neu drwy ffonio ein Swyddfa Docynnau ar 01646 695267. Ymdrinnir ag archebion Joon Dance yn allanol fesul gwefan Joon Dance.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.