THE PICTURE OF DORIAN GRAY - WEDI EI HADOLYGU

Daw’r cynhyrchiad digidol hwn o waith mwyaf tywyll ac unig nofel gyhoeddedig gan Oscar Wilde, â Dorian Gray yn sgrechian mewn i’r diwrnod presennol, i mewn i fyd go iawn o falchder cyfryngau cymdeithasol, ble mae’r Dorian modern yn nodi “rydym yn gwybod pris popeth, ond gwerth dim byd.”

Cyd-gynhyrchiad yw’r cynhyrchiad hwn gan sawl artist talentog ac enwau mawr megis (Joanna LumleyStephen FryRussel Tovey a Ffion Whitehead) yn ogystal â bod wedi ei gyd-gynhyrchu gan nifer o theatrau'r DU gan gynnwys, the Barn Theatre (Cirencester), New Wolsey Theatre (Ipswich), Lawrence Batley Theatre (Huddersfield), The Oxford Playhouse a Theatr Clwyd (y Wyddgrug, Gogledd Cymru).

Ysgrifennwyd yr addasiad gan Henry Filloux-Bennett (Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Lawrence Batley Theatre) ac fe'i cyfarwyddwyd gan Tamara Hardy (Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd), wedi ei greu gan yr un tîm wnaeth gyflwyno'r cynhyrchiad ar-lein i wylwyr o 'What a Carve up', y dirgelwch llofruddiaeth gwefreiddiol yn seiliedig ar y nofel arobryn gan Johnathan Coe. Cafodd 'What a Carve up' ei sgrinio yn ystod Hyd-Rhag 2020.

Mae'r tîm cyfan yn haeddu canmoliaeth am ddod â'r gwaith tywyll yn fyw, mewn ffurf hollol wahanol yn erbyn cefndir pandemig sy'n datblygu. Mae sawl lleoliad partner yn cynnig cyfle i gwsmeriaid archebu fesul eu systemau tocynnau, gyda'r cynhyrchiad yn helpu i gefnogi'r lleoliadau hyn.

Mae’r byd hwn yn bodoli o fewn y pandemig, mewn gosodiad iasol o gyfnodau clo ar draws y genedl a gwisgo mwgwd. Caiff cymeriadau eu cysylltu a’u datgysylltu gan ffonau symudol a sgriniau gliniadur, maent yn gwylio digwyddiadau’n ail-chwarae ar ddolen fideo, gan ychwanegu elfen arall ar wahaniad y cymeriadau a’u didoliad maes o law o gymdeithas. Mae unigedd a’r ffocws ar gyfryngau cymdeithasol yn hynod berthnasol i bobl ifanc. Mae Dorian ei hun (cyflwyniad gwych gan Ffion Whitehead) yn fyfyriwr Saesneg ac yn ddylanwadwr, sy’n ymdrechu i ennyn dilynwyr cyfryngau cymdeithasol mewn byd sydd wedi ei ddominyddu gan fywoliaeth rithwir. Ar ben-blwydd Dorian yn 21 mlwydd oed, mae ei ffrind Basil, sy’n cael ei chwarae’n ardderchog gan yr un sydd bob amser yn newid Russel Tovey, yn cynnig yr un peth mae’n ei grefu, i fod yn ifanc ac yn boblogaidd am byth, am un pris bach. Er ei fod wedi ei ddal yn hyfrydwch a’r posibilrwydd o’r byd a’i breswylwyr, yn enwedig y seren y dyfodol Sibyl Vane, mae Dorian yn cynnig ei ysbryd.

Yn flaenorol, chwaraeodd Whitehead y brif ran yn ffilm 2017 'Dunkirk', i ganmoliaeth feirniadol. Ac yntau dim ond yn 23 mlwydd oed, mae'n chwarae ei rôl gydag argyhoeddiad a dealltwriaeth wych, gan archwilio dyfnderoedd seicolegol helaeth y cymeriad cymhleth Dorian Gray drwy gydol y cynhyrchiad 80 munud o hyd. Ymddengys bod ei rôl fwyaf diweddar yn Black Mirror’s Bandersnatch wedi ei baratoi ar gyfer y stori droellog dywyll hon, sydd â mwy na chyffyrddiad o erchylltra dyfodolol Black Mirror.

Mae yna sawl tric technegol gwych sydd ar gael i'r cynhyrchydd ar gyfer yr addasiad hwn. Mae delwedd y drych yn cael ei hailddyfeisio fel yr hunlun wedi'i hidlo, gyda ffon USB yn cynnig yr opsiwn i Dorian dderbyn rhaglen feddalwedd, o'r enw New Leaf, i newid ei fywyd. Wrth i’r stori ddatblygu, a throellau bywyd Dorian allan o reolaeth, mae’r goleuadau’n tywyllu ac mae mur yn hongian y tu ôl iddo yn tyfu’n fwy bygythiol wrth iddo ffilmio’i hun. Rydyn ni'n ei weld yn crymu dros ei liniadur, ei groen yn heneiddio, gwaed yn gollwng o'i glust, ac eto ar gamera mae'n edrych yn iau, ac yn fwy bywiog, hyd yn oed yn anfarwol. Adlewyrcha ei gwpwrdd dillad hyn, wrth iddo symud o ddillad achlysurol myfyriwr, i siaced a chrys melfed coch gyda ryfflau, gan dalu gwrogaeth i Oscar Wilde ei hun a lle caiff y nofel ei gosod.

Mae’r sefyllfa anodd fodern hefyd wedi ei phlethu yn y llinell stori, gyda sôn am Dorian bob amser yn gwisgo ei fwgwd, ble bynnag yr aiff, yn nodi sawl cyfeirnod, yn gyntaf y syniad o orchuddio ei realiti, ei wyneb sy’n heneiddio a phoblogrwydd sy’n pylu, (yn ogystal â darlunio’r syniad o yntau’n gwisgo mwgwd go iawn, a’r masgiau yr ydym oll yn eu gwisgo ar gyfryngau cymdeithasol) yn gorchuddio ei dwyll a’i ysbryd darfodus. Pan fydd yr harddwch sy’n dal ei lygad, yn syrthio oddi ar y pedestal y mae wedi ei gosod hi arno, ac yn dangos ei hun mewn golau arall, mae’n greulon ac yn galeden, yn myfyrio ar sut mae eu cysylltiad yn effeithio ar ei oroesiad. Yn debyg iawn i fywyd rhywun enwog yn y cyfryngau. Mae’r canlyniad trasig hwn yn gadael ei farc ar y gwyliwr sydd wedi byw trwy’r trasiedïau o enwogrwydd fel Caroline Flack. Emma McDonald sy’n chwarae Sibyl yn hyfryd, gan ddal ei llawenydd o berfformio a’i chariad am Shakespeare. Mae ei bregusrwydd a’i hawydd i gael allfa greadigol ac i wneud y mwyaf o’i hamser yn ystod y cyfnod clo, ynghyd â’i hanobaith i lwyddo ac i gael ei hoffi, yn rhywbeth a fydd y gynulleidfa fodern yn ei adnabod.

Tra bod y Foneddiges Narborough (Joanna Lumley) yn cael ei chyfweld mewn theatr wag, yn siarad am ei chariad tuag at y celfyddydau a’i hawydd i gynnal digwyddiad codi arian ar eu cyfer, mae'n goleuo’r rhesymau y tu ôl i’r cynhyrchiad, gan blethu ffiniau realiti a ffuglen unwaith yn rhagor.

Nid yw'n gyfrinach mai iechyd meddwl yw canolbwynt y cynhyrchiad hwn, ac yn flaenllaw yn y neges mae'r cysylltiad â phobl ifanc a chyfryngau cymdeithasol. Mae Basil Hallward yn arteithio Dorian gyda’i gemau, gan annog awgrymiadau a'i ddefnyddio fel mochyn cwta ar gyfer ei feddalwedd newydd, ei obsesiwn â Dorian yn dod ag ef i lawr. Ar yr un pryd mae'n postio fideos YouTube o gyngor ac arweiniad wrth ddefnyddio'r union gyfryngau y mae'n eu harfogi ar ei ffrind.

Yn y cyfamser, mae’r rhyfedd Harry (sy'n cael ei chwarae gan Alfred Enoch) yn ymgnawdoliad o Oscar Wilde ei hun, mewn dillad coegwych, yn siarad yn dda ac mewn posau, yn edrych ymlaen mewn anghrediniaeth. Er bod y berthynas yn ymddangos yn anniogel ac yn rhyfedd, mae'n cael ei dynnu i mewn iddi hefyd, ac nid yw'n gwneud dim i'w rwystro nes ei bod hi'n rhy hwyr. Mae ei ymatebion a'i esboniadau yn dileu unrhyw feirniadaeth neu ymgais i archwilio'r hyn oedd yn digwydd mewn gwirionedd rhwng Dorian a Basil.

Mae gan y Fonesig Narborough, (sy'n cael ei chwarae gan Joanna Lumley) gymaint o obsesiwn gan ei hawydd i achub y theatr, a'i ffrind llawer iau a golygus, fel nad yw'n stopio meddwl tybed beth sydd wedi newid. Wrth gael ei holi, sylwodd mewn newid yn Dorian, ac mae'n cyfeirio at y mwgwd covid y mae'n ei wisgo'n gyson a'r diddordeb yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae hi'n gwadu realiti negyddol heneiddio ac yn nodi mai dim ond ei hochr orau sy'n ymddangos ar ffilm. Edrych i lawr ar bobl gyffredin gyda dirmyg bron yn frenhinol. Nid yw'r Fonesig Narborough hefyd yn gwneud dim i gwestiynu unrhyw newidiadau yn Dorian nac i atal ei dranc yn y pen draw. Yn syml, mae hi'n ei ddefnyddio fel tlws gan wneud sylwadau ar ei harddwch sy'n esblygu'n barhaus, ei ieuenctid a'i lwyddiant, gan danio'r trachwant sy'n ei fwydo.

Wrth i’r cynhyrchiad gyrraedd ei uchafbwynt, felly hefyd mae’r delweddau ailadroddus o’r byd rhithwir, dyfyniadau Wilde ei hun yn goleuo’r sgrin ac yn cael eu cyfleu gan yr actorion. Mae naws a thon y cynhyrchiad yn tyfu’n dywyllach, wrth i ni sylweddoli nad oes un ffordd yn ôl i Dorian. Mae e wedi rhoi’r cyfan. Mae sgwrs rithwir derfynol gyda’i ffrind Harry, yn datgelu pryder ei gyfaill. Cymaint y mae’n dymuno mai ond y ddau ohonynt sydd eto, heb Basil. Mae Dorian yn dyfynnu Roald Dahl mewn golygfa ingol sy’n pwysleisio ei deimladau a chyfarwyddyd ei fywyd ei hun. “If You have good thoughts, they will shine out of your face like sunbeams and you will always look lovely.”

Mae’r dyfyniad ysgafn ac eithaf hyfryd hwn gan Dahl yn ymddangos braidd yn sinistr a thrasig yma. I Dorian, yn rhy hwyr, mae'n sylweddoli gwir werth daioni, tarddiad gwir harddwch a phoblogrwydd.

Mae'r cynhyrchwyr yn gadael y stori yn y fan honno, gan adael y gynulleidfa’n eistedd a meddwl. Wrth i'r olygfa bylu ac wrth i'w hwynebau ddiflannu, mae'r gerddoriaeth yn chwarae. Dilynir hyn gan y cyfeiriad at wasanaethau iechyd meddwl a chysylltiadau i wylwyr, gan ddod o ymwybyddiaeth o'r themâu a fydd yn cyffwrdd yn eithaf dwfn â chynulleidfa fodern.

Mae addasiad digidol cyfoes hwn o The Picture of Dorian Gray yn cymryd themâu a chynsail o gampwaith Ffawstaidd Wilde ac yn eu haddasu ar gyfer oes newydd. Gan gynnwys pob technoleg a thric ar flaen eu bysedd, gyda chast nodedig a chan ddefnyddio’r gorau o dalent theatr y DU. Mae’r Dorian Gray hwn yn gynhyrchiad sy’n ddychrynllyd o fodern, yn taro ar bob nerf amrwd o’r hil ddynol gyfredol, darn yr ydych yn wirioneddol yn ymgolli eich hun mewn theatr fodern gyda neges drom.

Mae The Picture of Dorian Gray ar gael i'w ffrydio o 16eg-31ain Mawrth*.

- Amanda Griffiths

*Golygwyd - Ers cyfnod yr adolygiad, mae The Picture of Dorian Gray yn ymestyn ei rhediad, a nawr mae ar gael i'w gweld tan ddydd Sadwrn 17eg o Ebrill.


I archebu, ymwelwch â https://www.pictureofdoriangray.com/torch 

ofdoriangray.com/torch

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.