CYNHYRCHIAD DIGIDOL BEIRNIADOL CANMOLIAETHUS ‘THE PICTURE OF DORIAN GRAY’ NAWR YN RHEDEG AM BYTHEFNOS ARALL!

Mae Theatr y Torch, Aberdaugleddau wrth ei bodd i gyhoeddi y bydd addasiad digidol canmoliaethus sy’n llawn o sêr yn The Picture of Dorian Gray yn cael ei ymestyn am bythefnos arall, gan orffen ei rhediad ar Ebrill 17.

Mae beirniaid wedi mynd yn wyllt dros ongl 21ain ganrif Theatr Lawrence Batley o’r clasur Ffawstaidd, ac rydym yn meddwl y byddwch chi’n sicr o wneud hynny hefyd. Yn y cyd-gynhyrchiad hwn gan Barn Theatre, Lawrence Batley Theatre, New Wolsey Theatre, Oxford Playhouse & Theatr Clwyd, mae The Picture of Dorian Gray yn gweld Theatr y Torch yn ymuno â’r cydweithrediad fel lleoliad partner, gan wneud y cynhyrchiad ar gael yn ddigidol i’r rheiny sydd wrth eu bodd â theatr yn ‘West End Cymru’, sydd nawr yn rhedeg tan 17 Ebrill 2021.

Yn y cynhyrchiad hwn, llawn actorion dawnus, wnaeth dderbyn Pigion y Beirniad gan y New York Times, mae’n serennu Fionn Whitehead (Dunkirk) yn y rôl deitl ac yn ymuno ag ef mae Alfred Enoch fel Harry Wotton, Joanna Lumley fel Lady Narborough, Emma McDonald fel Sibyl Vane, Russell Tovey fel Basil Hallward a Stephen Fry fel yr un sy’n cyfweld.

Gellir prynu tocynnau trwy ymweld â https://www.torchtheatre.co.uk/the-picture-of-dorian-gray/ gydag aelodau o’r gynulleidfa’n derbyn dolen i’r dangosiad a fydd yn actifadu ar ddiwrnod eu perfformiad am gyfnod o 48 awr. Tocynnau’n £12 a fydd yn cynnwys dolen a i’r perfformiad yn ogystal â rhaglen ddigidol. Bydd disgrifiad clywedol a phenawdau clo ar gael ar gyfer y cynhyrchiad.

THE PICTURE OF DORIAN GRAY

Based on the novel by Oscar Wilde. Writer: Henry Filloux-Bennett. Director: Tamara Harvey.

Available digitally until 17 April 2021. For more info and to book visit https://www.torchtheatre.co.uk/the-picture-of-dorian-gray/

Any queries contact: bookings@pictureofdoriangray.com

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.