The Torch Theatre caught up with local actor Samuel Freeman …

Roedd y theatr a chelfyddydau perfformio yn rhan o fy mywyd ers yr oeddwn yn ifanc iawn. Dechreuais ganu’r trwmped yn saith mlwydd oed, a chan fod gan Sir Benfro wasanaeth cerddoriaeth mor gryf a chydweithredol, arweiniodd hyn at ymuno â phob math o fandiau ar lefel ysgol, sir, a thair sir. Roedd yn anochel y byddai fy nghariad at gerddoriaeth a pherfformio’n tyfu. Yna es ymlaen i ddysgu canu, gitâr, a bas, a chwarae clasurol, jas, roc, a phync, a’r cyfan oll diolch i gefnogaeth anhygoel fy athrawon. Arweiniodd cerddoriaeth at ddrama, sioeau cerdd, a dramâu; Shakespeare, Chekhov, Pinter, Caryl Churchill… allwn i ddim cael digon! Darparodd Celfyddydau Perfformio nid yn unig ddihangfa, fe wnaeth fy ngalluogi i barhau i ddianc i fyd o chwarae a defnyddio fy nychymyg fel oedolyn ifanc. Fe wnes i greu, dyheu a mynegi fy hun, wrth ddysgu gweithio a chymdeithasu gyda chyfoedion wrth ddyfeisio rhywbeth a oedd yn eiddo i ni i gyd.

Wrth dyfu i fynu, fe wnes i weld cymaint o ddramâu yn Theatr y Torch. Roeddwn yn ffodus i allu cael mynediad at waith proffesiynol gwych, yn lleol ac yn deithiol, ar garreg fy nrws. Ymunais â rhaglen theatr ieuenctid, lle treuliais hafau cyfan yn ymarfer a pherfformio dramâu. Cawsant eu hysgrifennu a'u cyfarwyddo gan ein Dave Ainsworth ni ein hunain, a rheolwyd y llwyfan gan Andrew Sturley a'r tîm technegol gwych. Roedd y ffordd roedd ein sioeau yn adlewyrchu ymarfer proffesiynol y theatr wedi rhoi’r sgiliau oedd eu hangen arnaf yn gynnar yn fy ngyrfa ac yn gwneud i mi eisiau i hynny fod yn swydd i mi.

Astudiais Actio yn Ysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Bath Spa cyn symud i Lundain yn 2014. Mae wedi bod yn sawl blwyddyn bellach! Mae gweithio ym myd theatr, ffilm a theledu ar draws y DU ac yn rhyngwladol wedi bod yn antur ryfeddol. Roedd y pandemig yn fwlch stop enfawr i'r diwydiant cyfan, roedd yn amser i fyfyrio, addasu. Y newid mwyaf a dyfodd ohono oedd dod yn greawdwr. Rwyf wedi bod wrth fy modd i weithio’n agos gyda Matt Emeny a Calf 2 Cow fel artist cyswllt, yn ysgrifennu ac yn cyfarwyddo’r gerddoriaeth ar gyfer tair sioe sydd wedi teithio ar draws y DU (gan gynnwys y Torch).

Fy sioe gyntaf gyda Chwmni Theatr y Torch (a fy nghredyd Cymraeg proffesiynol cyntaf) oedd Cinderella yn 2021. Cefais fy amgylchynu gan bobl ag acenion Cymreig hyfryd, a oedd yn siarad ac yn clymu ymadroddion gyda'i gilydd, fel fi. Bûm yn rhannu tafodiaith a phrofiad bywyd. Doeddwn i ddim wedi gwerthfawrogi tan yr eiliad honno fy mod wedi treulio fy ngyrfa gyfan yn gweithio mewn gwlad dramor! Mae bod yma wedi dod â chynhesrwydd a chysur. Tra i ffwrdd, roeddwn yn hiraethu am rywbeth nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod ei fod ar goll. Yr hyn oedd ar goll oedd cartref. Hiraeth.

Felly yn naturiol, dw i’n ecstatig i fod yn gweithio yn y Torch eto y Nadolig yma yn Beauty and the Beast. Mae’n argoeli i fod yn llawn chwerthin di-ri, cerddoriaeth, a hwyl rydych chi’n ei ddisgwyl o’r panto a mwy! Clywais fod y bwystfil yn eitha’ golygus o dan yr holl ffwr a cholur ‘na hefyd…

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.