THEATR IEUENCTID Y TORCH YN MYND Â DRAMA NEWYDD SBON AR DAITH

Ym mis Chwefror eleni, bydd Theatr Ieuenctid y Torch yn gweld 12 o’i haelodau’n perfformio Replica – darn newydd o waith a ysgrifennwyd gan y cyfarwyddwr a’r cerddor, Titas Halder.

Gyda chefnogaeth Rhaglen National Theatre Connections, bydd y bartneriaeth rhwng y National Theatre a Theatr y Torch, yn gweld tri pherfformiad yma yn Sir Benfro ar lwyfan y Torch, cyn bwrw’r ffordd a mynd tua’r gogledd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Connections yw gŵyl theatr ieuenctid genedlaethol flynyddol y National Theatre, sydd wedi bod yn rhedeg ers bron i 30 mlynedd. Mae Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn Theatr y Torch yn gyffrous iawn bod aelodau ifanc y Torch yn cymryd rhan ynddo am y tro cyntaf.

Meddai: “Rydym wrth ein bodd y bydd ein haelodau hynaf yn rhan o’r rhaglen wych hon, sydd â hanes rhyfeddol o hyrwyddo talent pobl ifanc o bob rhan o’r DU. Yn flynyddol, mae’n comisiynu dramâu newydd i bobl ifanc eu perfformio ac yn dod â rhai o awduron mwyaf cyffrous y DU ynghyd â gwneuthurwyr theatr yfory. Eleni, bydd yn gweithio gyda bron i 270 o gwmnïau ieuenctid o bob cornel o’r DU, ac mae’r Torch yn falch iawn o fod yn cynrychioli ieuenctid anhygoel Sir Benfro.”

Bydd Replica yn Theatr y Torch yn cael ei gyfarwyddo gan Tim gyda’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Ceri Ashe o Sir Benfro, (a chwaraeodd yr Evil Fairy Shadowmist ym mhantomeim 2023 Theatr y Torch,​ Beauty and the Beast).

Mae Replica yn waith newydd amserol am y modd y mae sïon yn ymwreiddio i wead ein cymdeithas, a’r dewisiadau y cawn ein gorfodi i’w gwneud pan fo si ychydig yn rhy agos at y gwir.

Ceri Ashe sy’n esbonio mwy:

"Mae'n gyffrous bod yn ôl yn gweithio yn y Torch ar gynhyrchiad anhygoel gyda'r aelodau theatr ieuenctid gwych yma. Mae'r stori yn dilyn person ifanc o'r enw Sam. Mae'r cymeriadau sydd wrth wraidd y stori yn credu bod Sam wedi newid; ei fod wedi dod yn ddyblygiad… ”

“Mae’n fraint anhygoel cael bod ar y daith gyda’r bobl ifanc a Tim. Rwy’n teimlo fy mod yn dysgu cymaint gan bob un ohonyn nhw, ac rydym yn ffodus iawn i gael pethau mor wych yn digwydd yma yn Sir Benfro. Fe’ch anogaf i ddod draw i weld beth yw’r holl beth – ni chewch eich siomi!”

Mae ymarferion yn y Torch wedi hen ddechrau ac mae Tim yn edrych ymlaen at y daith.

Meddai: “Mae’n wych bod aelodau o’r Theatr Ieuenctid yn gallu gweithio ar gynhyrchiad mor wych. Nid yn unig y byddant yn cael y cyfle i berfformio o flaen eu cynulleidfa gartref yma yn Aberdaugleddau, ond byddan nhw hefyd yn teithio i ganolbarth Cymru gyda chynulleidfa wahanol, llwyfan ac awyrgylch newydd. Mae wir yn cynnig profiad theatrig gwych iddyn nhw, ac rydym yn gwybod y byddan nhw’n creu atgofion oes.”

​Caiff Replica ei pherfformio yn Theatr y Torch ar nos Iau 22 Chwefror am 7.30pm, nos Wener 23 Chwefror am 7.30pm a nos Sadwrn 24 Chwefror am 7pm cyn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ym mis Ebrill. Prisiau tocyn Oedolyn: £10. Myfyriwr Llawn Amser: £8. Di-waith: £8. Anabl Cofrestredig: £8. Plentyn: £8. Dros 65: £8. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

Yn addas ar gyfer 12+.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.