Theatr Torch yn eich gwahodd i Sioe Gerdd Oinc-Tastig!

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ‘The Three Billy Goats Gruff’, mae Lost The Plot Theatrical yn heidio am y ffordd fawr eto gyda chlasur arall i’r teulu ... The Three Little Pigs, ac rydym oll yn caru peth tapio traed moch a gwichian moch bach yma yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau!

Fis Chwefror hwn, mae’n amser i chi gael eich cludo i fyd arall gyda’r antur sioe gerdd newydd sbon hon, ble, mewn cae llawn mwd ger y fferm, mae Tri Mochyn Bach yn byw. Wedi cael llond bola ar eu trefn dyddiol, maen nhw’n penderfynu trotian oddi yno i diroedd gwell.

Ymunwch gyda’n tri mochyn bach wrth iddyn nhw adael y cwt teuluol er mwyn chwilio am antur newydd! A fyddan nhw’n gwneud traed moch o’r cyfan, neu a fyddan nhw’n codi’r to? Bydd angen bod yn glyfar, yn ddewr gyda chynffonnau cyrliog i adeiladu pontydd a meithrin cyfeillgarwch â'i gilydd a'r rhai y maent yn dod ar eu traws ar hyd y ffordd.

Sicrhewch bod y traed moch hynny’n tapio a’ch bod yn gwichian ganu’r caneuon bachog newydd gan ddawnsio. Bydd digon o gyfranogiad gan y gynulleidfa hefyd ar gyfer perchyll o bob oed. Does dim ar ôl i’w wneud ond archebu eich tocynnau ar gyfer y sioe gerdd oinc -tastig hon!

Caiff The Three Little Pigs ei pherfformio ar lwyfan Theatr y Torch ar ddydd Sadwrn 17 Chwefror am 1pm a 3pm. Tocynnau Oedolyn: £13.50 a Phlentyn: £12. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.