THEATR Y TORCH YN CYNNIG TRÎT AR GYFER Y RHEINY SY’N CARU OPERA!

Yn cael ei darlledu’n fyw yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau fis Rhagfyr eleni, bydd y Met Opera: Florencia En El Amazonas, yn anrheg Nadolig cynnar i’r rhai sy’n hoff o opera. Mae perfformiad cyntaf y Met gan Mary Zimmerman yn dod â byd cyfriniol yr Amazon i lwyfan y Met.

Wedi’i chanu yn Sbaeneg a’i hysbrydoli gan realaeth hudol Gabriel García Márquez, mae opera 1996 y cyfansoddwr o Fecsico, Daniel Catán, yn ffocysu ar diva opera, Florencia Grimaldi. Gyda'r soprano Ailyn Pérez fel Florencia, mae'n dychwelyd i Brasil i berfformio ac i chwilio am ei chariad coll, sydd wedi diflannu i'r jyngl.

Mae’r ensemble nodedig o artistiaid sy’n portreadu cyd-deithwyr y diva ar gwch yr afon i Manaus yn cynnwys Gabriella Reyes fel y newyddiadurwr Rosalba, bas-bariton Greer Grimsley fel capten y llong, bariton Mattia Olivieri fel ei ffrind cyntaf enigmatig, y tenor Mario Chang yn nai i’r capten Arcadio, a'r fezzo-soprano Nancy Fabiola Herrera a'r bariton Michael Chioldi fel y cwpwl sy'n ffraeo Paula ac Álvaro, gyda Yannick Nézet-Séguin ar y podiwm.

Bydd MET Opera: Florencia En Al Amazonas yn cael ei darlledu'n fyw yn Theatr y Torch o ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr am 5.55pm. Pris tocynnau: Llawn: £20.00 Gostyngiad: £18.00 Dan 26: £9.00

Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.