THEATR GENEDLAETHOL CYMRU GYDA CHEFNOGAETH THEATR Y TORCH SY’N CYFLWYNO DRAMA DYNER AM GYFEILLGARWCH, GOBEITHION AC OFNAU POBL IFANC

Cynnig diweddaraf ar-lein Theatr y Torch fydd perfformiadau yn fyw o Pryd Mae’r Haf?, sef drama dyner am gyfeillgarwch a gobeithion ac ofnau pobl ifanc, wedi ei chynhyrchu gan Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soa. 

Wedi ei gosod yng nghymoedd de Cymru ym 1989, mae’r ddrama yn dilyn stori Luke a Christie, dau fachgen yn eu harddegau sy’n ffrindiau gorau. Wrth iddynt adael yr ysgol, mae eu bywydau’n mynd ar wahanol drywydd – mae Luke yn ymuno â’r fyddin, tra bod Christie yn aros adref ac yn parhau ei berthynas gyda’i gariad, Julie. Ond mae’r bechgyn yn darganfod bod eu cyfeillgarwch yn dioddef o ganlyniad i’r trywyddion gwahanol maent wedi eu dewis a’u dilyn. 

Cyfieithiad Cymreig yw Pryd Mae’r Haf gan Gwawr Loader (Tir ar S4C) o’r ddrama Christmas Is Miles Away gan Chloë Moss (The Smoke, Hollyoaks, Dickensian). Wedi ei gosod yn y 1980au hwyr, mae’n darparu llwyfan i’r teimladau hynny o rwystredigaeth, pryder, a gobaith sydd yr un mor berthnasol i bobl ifanc heddiw ag yr oeddent yr adeg honno.  

Sion Pritchard fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad. Mae Sion yn adnabyddus iawn fel actor ar lwyfan ac ar deledu, ond dyma fydd ei dro cyntaf i gyfarwyddo cynhyrchiad ar gyfer Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru. 

Caiff y perfformiadau eu ffrydio’n fyw ar-lein ar adegau a dyddiadau amrywiol rhwng dydd Iau 13 Mai - Gwener 2021. Bydd y ffrydiau Saesneg yn cynnwys perfformiadau gyda phenawdau cyfrwng Saesneg a BSL gan wneud y perfformiadau’n hygyrch i bawb.  

Gellir prynu tocynnau ar-lein fesul gwefan Theatr y Torch: https://www.torchtheatre.co.uk/pryd-mae-r-haf/ 

Pryd Mae’r Haf? (Christmas is Miles Away) gan Chloë Moss; wedi ei chyfieithu gan Gwawr Loader.

Cynhyrchiad gan Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar.

Ar gael yn ddigidol ar ddydd Iau 13-21 Mai 2021.

Perfformiadau: 8:00pm, 13 Mai 2021; 8:00pm, 14 Mai 2021; 1.30pm, 20 Mai 2021 [Perfformiad Prynhawn]; 8:00pm, 20 Mai 2021 @ 8:00pm [BSL]; 8:00pm, 21 Mai 2021 @ 8.00pm [Penawdau Saesneg.]

Tocynnau: Safonol: £10 | Pris Consesiwn: £5 | Tocyn ysgol: £30

Am fwy o wybodaeth ac i archebu ewch i https://www.torchtheatre.co.uk/pryd-mae-r-haf/

Canllaw oed: 14+ Yn cynnwys iaith gref a themâu oedolion. I weld rhestr o sbardunau posib, ewch i theatr.cymru/prydmaerhafarlei

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.