Y TORCH YN MYND YN WYRDD GYDA DIGWYDDIAD CYFNEWID DILLAD
Yn dilyn digwyddiad cyfnewid dillad hynod lwyddiannus a oedd yn cyd-fynd â dangosiad y rhaglen ddogfen Fashion Reimagined, mae Theatr y Torch, Aberdaugleddau wedi penderfynu cynnal digwyddiad cyfnewid dillad arall. Cynhelir y digwyddiad hwn ar ddydd Sadwrn 20 Mai a chaiff y digwyddiadau hyn eu cynnal bob deufis o hyn ymlaen.
Bydd digwyddiad mis Mai yn cyd-fynd â’r ffilm Joyland, lle mae’r mab ieuengaf mewn teulu Pacistanaidd traddodiadol yn cael swydd fel dawnsiwr wrth gefn mewn bwrlesg yn arddull Bollywood. Mae'n gwirioni ar y fenyw draws sy'n rhedeg y sioe.
Roedd poblogrwydd y digwyddiad cyfnewid dillad diwethaf a gynhaliwyd yn Oriel Joanna Field wedi'i amgylchynu gan waith celf gwych wedi synnu Theatr y Torch. Ond fel yr eglura Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned, gwneud y Torch yn gynhwysol ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd yw'r nod.
“Mae gennym gyfrifoldeb i’n planed a chawsom ein syfrdanu yma yn y Torch gan yr ymateb cynnes i’n digwyddiad cyfnewid dillad cyntaf a chydnabod haelioni ein cymuned. Rydym yn argymell eich bod yn gweld rhai o’r ffilmiau gwych sy’n digwydd cyn ac ar ôl ein digwyddiad cyfnewid dillad ond nid oes unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny.”
Mae Theatr y Torch yn derbyn dillad, esgidiau a chyfwisgoedd y mae plant ac oedolion yn eu caru, a chyhyd â’ch bod yn dod â rhywbeth gyda chi gallwch ei gyfnewid am rywbeth arall.
“Anhygoel oedd croesawu cymaint o bobl i’n hadeilad ar gyfer y cyfnewid dillad diwethaf! Roedd y Torch yn fwrlwm o bobl yn edrych i wneud newid i’w cwpwrdd dillad, yn mwynhau diod boeth a chacen o’n ciosg, neu’n sgwrsio gydag un o aelodau o’n tîm,” esboniodd Tim sy’n wyneb newydd yn y Torch, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Artistig, Chelsey Gillard.
Gorffennodd Tim: “Roedd yn foment arbennig iawn i Chelsey a minnau. Rydym bob amser yn edrych ar gyfleoedd i gynnal mwy o ddigwyddiadau amgylcheddol cymunedol wrth i ni geisio dod yn lleoliad gwyrddach. Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i leihau ein heffaith ar y blaned; rydyn ni wedi newid y ffordd rydyn ni’n defnyddio ynni yn ein hadeilad, yn ogystal â bod yn fwy cyfrifol gyda’r ffordd rydyn ni’n defnyddio (ac yn ailddefnyddio) ein setiau a’n gwisgoedd, felly roedd cyfnewid dillad yn ymddangos fel y cam gwych nesaf. Rydym hefyd yn ymwybodol bod pawb yn fwy ymwybodol o gost ar hyn o bryd ac yn ceisio gwneud arbedion lle y bod modd. Rydyn ni'n gwybod bod ein cyfnewidiadau dillad nid yn unig yn wych ar gyfer y blaned, ond mae nhw hefyd yn wych i'ch poced hefyd!”
Mae croeso cynnes i bawb fynychu’r sesiwn Cyfnewid Dillad nesaf ar ddydd Sadwrn 20fed Mai am 5.30pm cyn dangosiad o Joyland am 7.30pm (addas i bobl ifanc dros 15 oed). Bydd digwyddiad mis Gorffennaf ar ddydd Sul 23ain am 2pm.
![]()
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.