WE'RE GOING LIVE

Ers yr oedd yn blentyn, mae Lisa Shelmerdine Richards, bob amser wedi bod wrth ei bodd yn cyfansoddi cerddoriaeth ac ym mis Mehefin eleni bydd ei dyhead yn cyrraedd uchelfannau newydd wrth i’r athro ysgol o Sir Benfro berfformio ei cherddoriaeth ei hun ar ei hoff lwyfan lleol. Yn ei sioe gyntaf o’i cherddoriaeth byw ei hun, bydd Lisa a’i hartistiaid cefnogol yn dangos ystod o’i chaneuon gwreiddiol o’r enw ‘We’re Going Live” yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau.    

Yn 2020, fe wnaeth y fam i ddau o blant, Lisa, sy’n athro cerdd yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd, osod her bersonol iddi hi ei hun i ryddhau un gân newydd sbon pob mis am flwyddyn. Pan darodd y pandemig a rhaid oedd i bawb aros adref, gweithiodd Lisa o adref a glynodd at ei her gan gynyddu i ysgrifennu 20 o ganeuon newydd. Ar y cychwyn, creodd hyn nifer o broblemau yn enwedig y dysgu serth a newydd a wynebai o ran recordio, cynhyrchu a golygu. Er hynny, creodd hefyd gyfle gwych a ganiataodd i draciau Lisa gael eu recordio ar draws y DU ac yn fyd-eang wrth i recordio digidol osgoi unrhyw gyfyngiadau ar deithio. 

“Roedd byw a gweithio ar wahân yn heriol i gynifer o bobl. Fel strategaeth ymdopi, penderfynais wynebu’r heriau newydd yn uniongyrchol a sicrhau fy mod yn cyrraedd fy nod o gyfansoddi ar gyfer 2020 trwy recordio’r gerddoriaeth o bell. Mewn gwirionedd, agorodd y pandemig ddrysau mewn perfformiad rhithwir a oedd yn sicr wedi cael ei le ac yn parhau i fod. Ond ni allwch guro perfformiadau byw a bydd perfformio'r gerddoriaeth yn fyw yn Theatr y Torch bellach yn anhygoel” meddai Lisa.

Yn ystod y cyfnod clo a phan oedd drysau’r theatrau wedi cau, comisiynwyd Lisa i ysgrifennu darn newydd sbon o gerddoriaeth ar gyfer Cerddorfa West End Cymru, cwmni buddiannau cymunedol a ffurfiwyd yn ystod y pandemig.

Pan ryddhawyd y gân, fe wnaeth y trac “Win this Fight Alone” a gafodd sylw ar raglen radio’r BBC gan Roy Noble, hefyd sylw gan Radio Cymru ac ITV News. 

Dydd Iau 1 Mehefin fydd y cyfle cyntaf i glywed cerddoriaeth Lisa yn cael ei pherfformio’n fyw a dyna pam y bydd y teitl addas “We’re Going Live”, yn rhywbeth y mae Lisa wedi dyheu am ei wneud ers y cyfnod clo. Bydd band byw 8-darn yn chwarae pob un o’i thraciau amrywiol yn cynnwys nifer o wahanol arddulliau gan gynnwys pop, roc, electronig, gwlad, theatr gerdd a chlasurol. Bydd Joe Morgan, Sarah Benbow ac Emilija Kaijaks yn cyflwyno’r noson gyda nifer o westeion arbennig yn ymddangos drwy gydol y sioe.

Bydd Perfformio’r Gerddoriaeth yn Theatr y Torch yn gwireddu breuddwyd i Lisa fel yr eglura:

“Rwy’n cofio fel plentyn mynd ar dripiau ysgol i Theatr y Torch a nawr rwy’n mynd â fy mhlant fy hunan yno’n rheolaidd. Mae’n un o theatrau mwyaf mawreddog de Cymru ac rwyf mor gyffrous i fod yn dangos fy ngherddoriaeth fy hun yn y lleoliad hudolus hwn.

“Siaradais a siaradais am berfformio’r gerddoriaeth yn fyw ac yna un diwrnod gydag annogaeth a chefnogaeth fy nheulu a ffrindiau, meddyliais y byddai’n well i mi roi fy ngeiriau ar waith a chysylltu â Theatr y Torch. Ychydig iawn o fy ngherddoriaeth a ysgrifennwyd ar bapur gennyf gan fy mod wedi eu creu yn bennaf drwy’r glust. Rwyf bellach wedi treulio oriau ac oriau yn ysgrifennu a sgorio’r rhannau ar gyfer wyth aelod ein band. Mae’r ysgrifennu wedi bod yn broses hir a llafurus, ond mae’r diwedd bellach yn y golwg, ymarferion wedi’u trefnu a bydd yr ochr hwyliog greadigol yn cymryd llawer o amser,” meddai Lisa sy’n cael ei chefnogi gan ei gŵr Nick a dau o blant, Cory (12) ac Holly sy’n wyth mlwydd oed.

Yn ogystal â’r band ar y llwyfan mae nifer o westeion arbennig gan gynnwys y canwr gitâr lleol John Rodge, Sarah Sharpe [cyn Bennaeth Cerdd Tasker Milward, Aelod o Bella Voce a The Connections a Chyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Hwlffordd], Bethan Harkin [cyn Bennaeth Cerdd a Drama Ysgol Bro Gwaun – hefyd aelod o Bella Voce] a Steffan Hughes [cydweithiwr cerddoriaeth Lisa yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd – athrawes Cerdd a Drama].  

“Gobeithiaf am gynulleidfa fawr braf a gweld teulu a ffrindiau yno. Bydd mynd allan yna a pherfformio o flaen cynulleidfa’n anhygoel. Rhaid diolch yn fawr iawn i gefnogaeth y Torch, y cerddorion ac i’r bobl a recordiodd y traciau o bell gan ddod â nhw oll yn fyw,” meddai Lisa, a ysgrifennodd, yn 2019, gerddoriaeth hysbyseb diwedd tymor ar gyfer Cwmni Beach Food Sir Benfro ble ymddangosodd yn y fideo cerdd lle’r ‘oedd hi'n chwarae'r piano wrth ymyl y dŵr yn Freshwater West.

Bydd We’re Going Live yn fyw ar lwyfan Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar nos Iau 1 Mehefin 2023 am 7.30pm. Tocynnau: Oedolion: £12/ £10 Consesiynau a Phlant a gellir eu harchebu o’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.