Y Torch yn Gyfeillgar i'r Amgylchedd

Gyda phwyslais enfawr ar ailgylchu ac ail-ddefnyddio deunyddiau yn ein bywydau beunyddiol, mae Theatr y Torch, Aberdaugleddau yn cymryd mesurau ychwanegol gyda'i ymgyrch ailgylchu eleni ac nid yw’r panto Nadoligaidd o Beauty and the Beast yn eithriad. Bydd y set yn cael ei chreu gan ddefnyddio deunyddiau a ailgylchwyd o gynhyrchiad hydref 2023 o Private Lives.

O ailgylchu’r gwastraff cartref arferol megis gwydr, papur a bwyd, mae Theatr y Torch hefyd yn ticio’r holl focsys pan ddaw i Statws y Ddraig Werdd gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a fydd yn cael ei gyflawni yn ddiweddarach eleni.

Mae Andrew Sturley, Uwch Reolwr Technegol yn Theatr y Torch yn dweud ei bod yn hanfodol ailgylchu ac ail-bwrpasu setiau a golygfeydd ar gyfer cynyrchiadau. Dywedodd:

“Mae dros 50 y cant o olygfeydd Private Lives wedi’u hail-bwrpasu ar gyfer ein pantomeim Beauty and the Beast, ac yn dilyn ei berfformiad diwethaf bydd yn cael ei ail-ddefnyddio eto ar gyfer sioe Spamalot Monty Python sy’n ymweld â’r Torch yn gynnar y flwyddyn nesaf.

“Mae’n hanfodol yma yn y Torch i ddilyn Llyfr Gwyrdd y Theatr Genedlaethol – polisi amgylcheddol cydnabyddedig sydd yn ei le ym mhob theatr ar draws Cymru. Un o’r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud yw defnyddio gweithlu yn hytrach na fan i gasglu setiau o’n gweithdy. Rydyn ni’n cludo cymaint o’r set yn ôl ac ymlaen yn hytrach na defnyddio’r fan ac felly’n lleihau ein hôl troed carbon gan fod y gweithdy wedi’i leoli i fyny’r ffordd o’r Theatr ei hun.”

​Ychwanegodd Andrew fod y gwaith metel ar gyfer y tŵr hedfan yn yr awditoriwm hefyd yn cael ei ailgylchu a bod llawer o'r gwaith metel a ddefnyddiwyd wedi'i weldio gyda'i gilydd i atal prynu deunydd newydd. O Private Lives i Beauty and the Beast, bydd Opera Ieuenctid Caerfyrddin hefyd yn defnyddio deunydd wedi’i ailgylchu o’r cynyrchiadau.

“Rydyn ni wedi mynd gam ymhellach i feddwl am ffyrdd o helpu'r amgylchedd ac un o'r syniadau hynny fu prynu miloedd o gysylltiadau Velcro yn hytrach na defnyddio rhai tâp trydanol i adennill ceblau. Rydym yn addasu’n gyson ac yn meddwl am ffyrdd newydd o weithio i sicrhau ein bod yn wyrdd, nad oes unrhyw wastraff a’n bod yn clustnodi pethau i’w defnyddio eto ar gyfer cynyrchiadau’r dyfodol,” meddai Andrew.

Mae Marcus Lewis, Uwch Reolwr Theatr y Torch - Blaen y Tŷ a Gweithrediadau yn dweud ei fod yn awyddus i sicrhau bod y Torch mor ecogyfeillgar â phosibl.

“Mae gennym ni’r biniau ailgylchu arferol ym Mlaen y Tŷ ac mae ein Tywyswyr yn gweithio yn unol â biniau casglu sbwriel penodol Cyngor Sir Penfro. Ers ail-agor ar ôl covid, rydym yn bendant wedi lleihau nifer y bagiau sbwriel du ac mae gennym sgipiau penodol ar gyfer caniau, plastigion a bwyd o Gaffi a bar y Torch. Rydym hefyd yn creu Ymgyrch Diffodd ar gyfer yr adeilad dros y misoedd nesaf ac mae eisoes gan rai ardaloedd synwyryddion felly mae’r golau’n troi ymlaen ac i ffwrdd pan fydd person yn mynd i mewn neu’n gadael ardal,” esboniodd Marcus.

​Dros y misoedd nesaf ac yn ystod pantomeim Beauty and the Beast, bydd tywyswyr gwirfoddol yn cael eu hyfforddi i ddyrannu gwastraff ar gyfer biniau penodol a bydd Hyrwyddwr Amgylchedd newydd yn cael ei ddewis a fydd yn hyrwyddo ailgylchu o fewn muriau’r Torch.

Mae Theatr y Torch hefyd wedi cynnal digwyddiadau Cyfnewid Dillad trwy gydol 2023 sydd wedi bod yn boblogaidd iawn.

Yn hudolus bydd Beauty and the Beast yn gwneud ei ffordd i lwyfan Theatr y Torch o ddydd Gwener 15 Rhagfyr i ddydd Sul 31 Rhagfyr. Bydd Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ar ddydd Sadwrn 16 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli BSL ar ddydd Mawrth 19 Rhagfyr am 6pm.

Nodwch: Mae Aelodau’r Torch yn cael 25% oddi ar hyd at bedwar tocyn a brynwyd ar gyfer Beauty and the Beast.

Prisiau tocynnau cyffredinol yn £22.50 | £19.00 CONS | £70.00 TEULU. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu ar-lein yn torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.