Ydych chi'n ffan o Aled Jones? Bydd Aled yma yn y Torch fis Mawrth!

Mae wedi bod yn bresennol yn ein bywydau am fwy na 40 mlynedd. Cafodd Aled Jones lwyddiant rhyfeddol fel bachgen â’i lais angylaidd, gan ddod o hyd i le parhaol yn ein holl Nadoligau gyda’i gân hyfryd, Walking In The Air.

Gan werthu dros saith miliwn o albymau, Aled oedd y seren wreiddiol, glasurol. Mae ei recordiad o'r ffilm animeiddiedig The Snowman wedi ei sefydlu'n gadarn fel enw cyfarwydd ac mae wedi dod yn rhan annatod o ddathliadau'r genedl.

Yr un mor gartrefol ar y llwyfan clasurol, neu’n serennu mewn cynyrchiadau theatr gerdd yn West End Llundain, mae ei gredydau’n cynnwys prif rannau yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, Chitty Chitty Bang Bang a White Christmas gan Irving Berlin. Fel canwr, mae galw mawr am Aled yn fyd-eang ac mae wedi perfformio yn lleoliadau mwyaf eiconig y byd, o’r Royal Albert Hall yn Llundain i Dŷ Opera Sydney.

Yn ffefryn gyda'r teulu brenhinol, rhoddodd berfformiad preifat i'r Brenin Siarl III ym Mhalas Kensington hyd yn oed. Mae’n ddarlledwr teledu a chyflwynydd radio arobryn sydd wedi cyfweld cannoedd o sêr A-List dros y blynyddoedd. Mae’n arwain Songs of Praise y BBC a’i sioeau ei hun ar fore Sadwrn a Sul ar Classic FM.

Nawr, ar ôl 40 mlynedd yn y busnes, mae’n edrych yn ôl ar yrfa ryfeddol gyda sioe un dyn, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth nas clywyd erioed o’r blaen, hanesion y degawdau ac am y tro cyntaf, ei stori’n cael ei hadrodd yn ei eiriau ei hun. Mae'n amser dod Full Circle.

Full Circle yw teitl ei lyfr newydd, sydd allan ym mis Mawrth, a’i daith newydd, a fydd yn dathlu ei fywyd. Gall cefnogwyr fwynhau’r llais digamsyniol hwnnw, yn ogystal â straeon doniol ganddo.

Ar ôl cyrraedd Rhif Un yn y siartiau Clasurol yn ddiweddar gyda’i albwm diweddaraf, One Voice, a oedd yn paru bachgen-Aled â dyn-Aled, mae’n edrych ymlaen at adrodd ei stori.

Mae Aled wedi cyflawni’r campau prinnaf hynny – mae wedi llwyddo rhywsut i gynnal lefel o lwyddiant dros bedwar degawd. Mae yna lawer sy'n mwynhau enwogrwydd fel plant, neu fel sêr ar sioeau talent, ond maen nhw'n aml yma heddiw ac wedi mynd-yfory. Mae Aled wedi torri'r mowld yna. Ar ôl mwynhau pedair blynedd ryfeddol yn blentyn, pan ddaeth y gwestai a gafodd ei gyfweld fwyaf ar sioe  Wogn ar y teledu, gan ffurfio cwlwm agos â chyflwynydd brwd y BBC, ffurfiodd yrfa newydd.

Daeth yn seren yn y West End, yn Joseph gan Andrew Lloyd-Webber, tra’n ymuno â Lorraine, fel cyd-westeiwr ar Daybreak ar ITV.

“Rydw i wastad wedi teimlo’n lwcus, yn cael yr yrfa sydd gen i, ond wrth i mi fynd yn hŷn, rydw i’n teimlo ei bod hi’n anrhydedd cael byw’r bywyd hwn. Rwyf wrth fy modd yr hyn yr wyf yn ei wneud ar gyfer bywoliaeth. Rwyf wedi bod mor ffodus i fod yn rhan o fywydau pobl ers cymaint o flynyddoedd. A dweud y gwir, dw i bron yn teimlo’n ddagreuol wrth feddwl am y peth,” meddai Aled.

Daeth y rhan hwyliog pan oedd yn treulio amser gyda’r teulu Brenhinol ac yn canu yn y Royal Albert Hall, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn fachgen.

“Roedd yn teimlo fel bod yn bencampwr bocsio pwysau trwm y byd a nes i chi gael eich bwrw allan – roedd yn wych. Roeddwn i'n gwybod mai byrhoedlog fyddai fy ngyrfa yn blentyn ond am y pedair blynedd hynny roeddwn i'n gwneud cymaint ag y gallwn. Mwy o ganu a mwy o hwyl! Mam a dad oedd yn gyfrifol am yr hwyl, a dweud y gwir. Pan oeddwn yn ôl yn yr ysgol, roedd yn ddiddorol, a dweud y lleiaf!” ychwanegodd Aled.

Mae ei berthynas â'r teulu brenhinol wedi parhau dros nifer o flynyddoedd. Roedd yn rhannu’r un triniwr gwallt â’r Dywysoges Diana a chafodd wahoddiad i ganu i Charles a Di tra’n fachgen, fel yr eglura Aled:

“Yr uchafbwynt oedd perfformiad preifat y Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana yn eu cartref ym Mhalas Kensington. Ffoniodd y Palas fy nhad yn y gwaith a rhoddodd fy nhad y ffôn i lawr gan feddwl mai rhywun o'i waith oedd yn chwarae jôc arno. Yna ffoniodd y person yn ôl a dweud bod yr alwad yn un go iawn!

“Mae'n debyg bod y Tywysog Charles yn caru fy llais ac roedd am fy nghlywed yn canu cyn i'm llais dorri. Sut fyddai nos Iau? Dywedodd fy nhad: ‘Ie, bydd hynny’n iawn.’ Felly bant â mi o Ogledd Cymru, gyda mam, a fy phianydd, a chyrhaeddais Balas Kensington. Roeddem yn adnabod y bwtler yn dda, oherwydd yr oedd yn ffrind i fy hen ewythr, ac rwy'n cofio eistedd yn eu hystafell ffrynt preifat ym Mhalas Kensington. Eisteddais ar un soffa ac eisteddodd fy nghyfeilydd o Ogledd Cymru, Annette Bryn Parri, nad oedd erioed wedi bod i Lundain, heb sȏn am Balas Kensington, ar y llall, gyda fy mam hefyd yn yr ystafell.

“Fe wnaethon ni aros mewn distawrwydd nes i'r Tywysog ddod i mewn. ‘Mrs Jones, neu a gaf i’ch galw yn Nest?’ Meddai: ‘Beth hoffech chi ei yfed?’ Ac roeddwn i’n gallu gweld fy mam yn meddwl: ‘Ydy e’n golygu dŵr, neu goffi, neu de?’ Roedd fel petai amser wedi sefyll yn llonydd. Ac yna gosododd law ar ei phen-glin a dweud: ‘A wnewch chi ymuno â mi mewn gin a thonic?’ Ac anadlodd hi ochenaid o ryddhad a dweud byddwn. Ymunodd Diana â ni wedi hynny. Roedd ganddi wallt gwlyb oherwydd roedd hi wedi bod yn nofio. Roeddwn i'n ei hadnabod yn eithaf da beth bynnag, erbyn hynny, felly cawsom gwtsh. Fe wnes i ganu pa bynnag ganeuon roedden nhw eisiau am ryw awr wedi hynny.”

Ac yna fe wnes i berfformio ym mhriodas enwogion y flwyddyn pan briododd Bob Geldof â Paula Yates a disgynnodd y teulu brenhinol. Tynnwyd llun Aled wrth ymyl David Bowie, cyn dilyn aelodau Spandau Ballet o gwmpas am y diwrnod rhag ofn eu bod am iddo ymuno.

“Roedd y briodas yn hollol brydferth. Yr wyf yn cofio sefyll gyda Bob cyn iddo fyned yr eglwys. Roedd am i bopeth fod yn berffaith. Canais fy nghaneuon, a chofiaf edrych ar y gynulleidfa a gweld môr o wynebau enwog oll yn gwenu ac yn mwynhau'r gerddoriaeth. Ar ôl y gwasanaeth roeddwn yn eistedd wrth yr organ gyda Jess a chofiaf Simon Le Bon, y gwas priodas, yn dod ata i, ac yn dweud wrthyf: ‘Roeddwn i’n caru dy ganu, ond yn fwy na dim, rwy’n caru dy sanau.’

“Gadewch imi ddweud wrthych am fy sanau. Yn fy ysgol i, ar y pryd, roedd yna ffasiwn am wisgo sanau llewyrchol, un oren ac un gwyrdd, ac roeddwn i'n gwisgo'r rheiny ar gyfer y briodas. Beth oeddwn i'n feddwl! Arweiniodd Simon fi i fyny'r grisiau i'r tŷ lle'r oedd tua 20 o'r gwesteion wedi ymgasglu ar gyfer y llun swyddogol. Dywedwyd wrthyf am fynd i sefyll y tu ôl i gadair fawr. Ac felly ganwyd un o'r lluniau priodas mwyaf eiconig erioed. Doedd gen i ddim syniad ar y pryd mai'r dyn oedd yn eistedd o'm blaen, a’n llaw ar ei ysgwydd oedd Y David Bowie! Roedd y cyfan yn anghredadwy!

“Fe awgrymodd Bob Geldof ein bod ni i gyd yn mynd allan i chwarae pêl fas, neu rownders. Roedd tîm Paula yn erbyn tîm Bob. Roeddwn i ar dîm Bob os cofiaf yn iawn. Roedd yna A-listers pop yn chwarae rownderi yn eu tuxedos. Dechreuodd golau bylu a chlywais Bob yn gweiddi: ‘Al, tynnwch un o’ch sanau, a wnewch chi?’ A rhoesom un o fy sanau goleuol ar y bêl er mwyn i ni allu ei gweld wrth iddi ddechrau tywyllu. Roedd y cyfan yn swreal. Yna roedd arddangosfa tân gwyllt enfawr a bar rhad ac am ddim, gyda'r parti yn mynd ymlaen i'r oriau mân. Fel y gallwch ddychmygu roedd y band byw yn y parti yn wefreiddiol. Duran Duran, Spandau Ballet, Lulu ac ati oll yn rhannu'r meic. Wnes i ddim canu wedyn! Roedd y cyfan yn eithaf anhygoel. Roedd fy nhad yn beiriannydd ar y pryd ac roedd mam yn athrawes ysgol gynradd a dyna ni, roedd y tri ohonom ni, yn rhannu amgylchedd gydag enwogion A-List. Cafodd fy rhieni amser gwych. Roedd Bob a Paula mor garedig i mi y diwrnod hwnnw ac mewn cyfarfodydd dilynol hefyd. Cefais y fraint o ganu ar eu diwrnod mawr.”

Canodd i Leonard Bernstein, dyn y mae'n ei debygu i Mozart, a daeth yn ffrindiau mawr gyda Judy Dench. Chwaraeodd ochr yn ochr â Julie Andrews, ac enillodd Ivor Novello, Emmy, ac MBE - nid ei fod yn gallu cofio lle mae unrhyw un o'r rhain.

Ac yna daeth yn un o gyfwelwyr a chyflwynwyr gorau ac anwylaf y genedl – cymaint nes i Michael Parkinson ddweud wrtho nad oedd neb arall gwell, wel, ar wahân iddo’i hun.

Un o’r eiliadau gorau oedd gweithio gyda Julie Andrews: “Mae yna fideo o Julie Andrews a finne yn canu Edelweiss ac o’r diwedd, fe wnaethon ni roi ein pennau at ein gilydd ac mae hi’n rhoi cusan i mi. I mi, hi yw un o sêr ffilm mwyaf, os nad y mwyaf, fy nghenhedlaeth. Wrth dyfu i fyny, nes i garu’r ffilmiau hynny, fel Mary Poppins neu The Sound of Music. Actores ddisglair gyda llais aruchel.

Roedd cael y gwahoddiad i gyfweld â Julie Andrews ar ei thaith yn gwireddu breuddwyd. Roedd yn foment pinsio fi.

“Roedd Julie mor hyfryd i mi. Ysgrifennodd hi lythyr mewn llawysgrifen ataf ar ddiwedd y daith. Mae wedi ei fframio yn fy swyddfa. Gweithio gyda hi yw un o uchafbwyntiau fy ngyrfa. Nid dim ond ein bod ni wedi perfformio gyda'n gilydd ar y llwyfan ond hefyd yr amser a wnaethom dreulio gefn llwyfan, lle’r oeddem gennym berthynas dda. Roedd ganddi dîm gwych o’i chwmpas a oedd wedi bod gyda’i ers blynyddoedd lawer ac roedd cael y caniatâd hwnnw i fynd i mewn i’r cysegr mewnol hwnnw yn arbennig iawn.

“Ces i fy nghludo’n llwyr. Roeddwn i'n canu Edelweiss gyda'r Fonesig Julie Andrews. Nid oes gwell na hynny. Roedd yn supercalifragilisticexpialidocious.”

Ac yn awr mae wedi dod Full Circle. Mae’n taro’r ffordd fawr ac yn rhannu ei straeon gyda nosweithiau o ganu a straeon a bydd yn ymweld â Theatr y Torch nos Fercher 27 Mawrth am 7.30pm. Cliciwch yma am fanylion llawn

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.