YN GALW AR HOLL DDEWINIAID TECNO I’R TORCH!

Ydych chi’n ffan o sioeau gêm? A oes gennych chi elfen gystadleuol? Ydych chi’n dda ar eich ffȏn smart neu dabled? Yna does dim angen i edrych ymhellach na WiFi Wars yn Theatr y Torch fis Ionawr. Ydym, rydym eisoes yn meddwl am y Flwyddyn Newydd ac yn eich cyflwyno i’n perfformiadau yn 2024, ac mae Wifi Wars yn un na ddylid ei cholli wrth iddi ddychwelyd gyda sioe gêm gomedi fyw ble gall pawb chwarae ynghyd!

Yn cael ei chynnal gan y digrifwr Steve McNeil (capten tîm ar sioe gomedi/chwaraeon boblogaidd teledu’r DU "Dara O’Briain’s Go 8 Bit") gyda chymorth y dewin tec wnaeth Dorri Record y Byd Guinness, y gwobrwyedig Rob Sedgebeer, mae Wifi Wars yn gwahodd cynulleidfaoedd i fewngofnodi i’w ffȏn smart neu dabled a chystadlu mewn amryw o gemau, posau a chwisiau i ennill y sioe, a gwobrau!

Mae Wifi Wars mor boblogaidd fel y gallwch fynychu nid un, ond dwy sioe yn y Torch a bydd gemau hollol gwahanol a chwisiau ym mhob un sioe fel y gallwch fynychu’r ddwy ar ddydd Sadwrn 6 Ionawr am 2pm a 7pm!

Wedi’i disgrifio gan The Guardian fel sioe “Na Ddylid Ei Cholli” ac yn ymddangos fel Dewis y Beirniad gan Time Out ac ar restr Hot List y Times, mae’r sioe ryngweithiol hon yn cynnig rhywbeth gwahanol mewn lleoliad theatr. Mae hyd yn oed wedi gwneud y Top Ten London Geek Nights gan y Metro.

Argymhellir ar gyfer oedran 6+ (sioe brynhawn), 12+ (sioe gyda'r nos), bydd Wifi Wars yn apelio at bawb.

Pris tocyn ar gyfer Wifi Wars ar ddydd Sadwrn 6 Ionawr am 2pm a 7pm yn Teulu: £50, Llawn: £15 ac O Dan 26; £13.50. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa’r Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.