Catch up with Freya for a quick Q and A!

Os cawn Nadolig gwyn, a wnei di adeiladu dyn eira? Os felly, sut olwg fydd ar dy ddyn eira?

Byddaf, yn bendant! Rwyf wrth fy modd yn adeiladu dyn eira a dod o hyd i bethau hwyliog i'w addurno. Roedd fy dyn eira diwethaf a wnes yn gwisgo het haf llipa fawr fel seren ffilm ar wyliau. Rwyf hefyd yn hoff iawn o gliter, felly rwy'n meddwl yr hoffwn ei addurno gyda rhai hen wisgoedd dawnsio.

 

Beth yw dy hoff ran o’r diwrnod ar ddydd Nadolig?

Rwyf wrth fy modd gyda’r diwrnod cyfan! Ond rydw i wir yn mwynhau'r gemau ar ôl cinio. Mae aelodau o’r teulu wrth eu bodd yn chwarae charades neu'r gêm ble me rhaid  dyfalu'r enw sydd ar dy ben. Rwyf wrth fy modd yn gweld pawb yn cael hwyl ac yn ymlacio. Mae'r gemau hynny bob amser yn gorffen gyda llawer o chwerthin.

 

Beth wyt gobeithio y bydd Santa yn dod i ti?

Weithiau dw i'n cael rhywbeth bach i gofio'r sioe dw i'n gwneud. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi gwneud sioeau Nadolig ac wedi bod wrth fy modd yn cael rhywbeth i gofio'r sioe/cymeriad hwnnw.

 

A wnest ti gymryd rhan mewn panto Nadolig yn yr ysgol – pa gymeriad wnes di ei chwarae?

Do, roedd gennym ni athrawes wych (Miss Richards) a oedd yn hoff iawn o'r celfyddydau perfformio a byddai'n gwneud cyflwyniadau modern gwych ar sioeau Nadolig. Yn ystod fy mlwyddyn olaf fe wnaethon nhw roi rhan y prifathro oedd yn caru ffasiwn i mi a ches i ganu unawd lle gwnaethon nhw newid geiriau Super Truper ABBA i ffitio’r sioe.

 

Wyt ti erioed wedi gweithio ar ddydd Nadolig?

Dydw i ddim wedi gweithio ar ddiwrnod y Nadolig ond rydw i wedi cael nifer o swyddi ble dw i wedi gweithio dros wyliau'r Nadolig.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.