MEET TERRY THE T-REX

Paratowch eich hunain ar gyfer yr un bach ciwt ‘ma wrth i ni eich cyflwyno i’r annwyl ‘Terry.’ Y dinosor bach gorjys hwn yw masgot Dinosaur Adventure Live sy’n dod i Theatr y Torch ar ddydd Gwener 25 Awst ac ni allwn aros i chi gael amser Torch T-rex-iffic!

Mae Terry yn brysur iawn, ond fe lwyddodd Anwen, ein gohebydd crwydrol, i gael cyfweliad gydag ef o’r diwedd!

Felly Terry, dyweda ychydig wrthym am Dinosaur Adventure Live? Mae'n edrych yn llawn cynnwrf!

Mae’n gymaint o hwyl, gall fy mrodyr a chwiorydd ymddangos yn frawychus ond maen nhw’n gyfeillgar iawn, mae eu babis hyd yn oed yn hoffi dod i ddweud helo!

Rydyn ni'n caru dinosoriaid yma yn y Torch. Pa un yw eich hoff ddinosor yn y sioe a pham?

Mae hwn yn un anodd i mi Anwen gan eu bod nhw oll yn deulu – dw i’n caru nhw i gyd (pssssttt Ringo the Raptor yw fy ffefryn)

Ydy dinosoriaid yn gallu dawnsio mewn gwirionedd? Wyt ti’n dawnsio? Os felly, beth yw dy hoff symudiad? Wyt ti’n gallu canu hefyd?

Wrth gwrs mae Dinosoriaid yn gallu dawnsio, dwyt ti erioed wedi gweld T-rex yn dawnsio i Thriller? Fy hoff ddawns yw'r Raptor Rumba ac rwyf wrth fy modd yn ysgwyd fy nghynffon.

Clywaf fod yna drysor coll yn y sioe ... a allwn ni ddod ar yr antur saffari gyda ti i helpu ti i ddod o hyd iddo? Ble byddwn ni'n dechrau?

Wrth gwrs Anwen! Bydd y Ceidwaid yn mynd â chi i gyd yn ddiogel o amgylch yr ynys – ond dal yn gafael ar dy dad rhag ofn iddo nhw fynd ar goll.

Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld y sioe – beth yw dy hoff ran a pham?

Rwyf wrth fy modd yn gweld pawb yn cymryd rhan ac mae cwrdd â phob un o'm cyd-deinosoriaid teuluol yn arbennig iawn.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.