MEET AND BEAT THE BEAST
Mae pob un ohonom ni yn Theatr y Torch yn ffans mawr o’r Chase ac ni allwn aros i’ch cael ar ein llwyfan am ddwy noson! Am wledd! Beth all cefnogwyr ddisgwyl?
Set gomedi gan Owen ac yna sgwrs anffurfiol amdanaf i a fy mywyd. Yn yr ail hanner mae gennym gwis rhyngweithiol lle bydd pob un ohonoch yn colli i mi :)
Pa mor wahanol yw ymddangos ar lwyfan byw yn hytrach na rhaglen deledu wedi'i recordio ymlaen llaw? Ydych chi byth yn mynd yn nerfus mewn digwyddiad byw?
Na, mae digwyddiadau byw yn llawer o hwyl gan eich bod yn cwrdd â chyd-selogion cwis.
Faint o baratoi fyddwch chi'n ei wneud cyn yr ymddangosiad llwyfan yn y Torch?
Llawer, yn bennaf deall acen Owen.
A allwch chi roi rhywfaint o gyngor i aelodau ein cynulleidfa ar sut i fod yn gystadleuydd llwyddiannus?
Talwch sylw i'r cwestiwn. Gwnewch yn siŵr bod y cwestiwn rydych chi'n ei ateb yr un peth â'r un sydd wedi'i ysgrifennu ar y sgrin.
Mae Theatr y Torch yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i Sir Benfro. Ai hwn fydd eich ymweliad cyntaf â’r Theatr ac â’r Sir? Ac a ydych chi'n hyderus y byddwch chi'n curo aelod o'r gynulleidfa gyda ni?
Nid wyf yn meddwl fy mod wedi bod i Sir Benfro. Aberteifi yw’r dref agosaf i mi fod. Rydych chi'n gwybod fy mod i'n mynd i ennill :)
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.