“Rwy’n angerddol am feithrin hyder a gwella llesiant pobl drwy’r celfyddydau” – Freya Dare

“Rwy’n angerddol am feithrin hyder a gwella llesiant pobl drwy’r celfyddydau” – Freya Dare

Yma yn Theatr y Torch, mae llesiant wrth galon ein holl weithgareddau ymgysylltu a chymunedol. Ac nid yw ein rhaglen newydd sbon o ddigwyddiadau AM DDIM sef Lle Cynnes yn y Torch yn eithriad. Rydym yn falch o fod yn cynnig cyfres o sesiynau drama llawn hwyl ar gyfer y rhai dros 50 oed, a fydd yn ffocysu ar lesiant. Mae'r rhain digwydd o'r mis hwn tan ddiwedd mis Mawrth 2024.

Rydyn ni’n gwybod bod ‘gwneud drama’ yn gallu teimlo’n eithaf brawychus ond mae ein sesiynau yn agored ac yn hamddenol heb unrhyw brofiad blaenorol yn angenrheidiol, a does dim pwysau i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau mewn sesiwn – gwnewch yr hyn sy’n teimlo’n gyfforddus i chi.

Mae’r artist dawns/drama Freya Dare o Sir Benfro, sy’n rhedeg ei Chwmni Theatr ei hun, yn edrych ymlaen at gynnal y sesiynau drama llawn hwyl ac i gwrdd â phobl newydd.

Dywedodd Freya: “Dros y misoedd nesaf, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o Lle Cynnes yn y Torch. Rwy’n Artist Dawns a Drama Cymunedol yn yr ardal ac yn dwlu ar brosiectau sy’n cymysgu celfyddydau ag agweddau cymdeithasol hwyliog hefyd.”

Dros y blynyddoedd, mae Freya wedi bod yn ymwneud â phrosiectau cymunedol ar gyfer Ysgolion Cynradd, Cartrefi Gofal, Ballet Cymru, Dance Well- Arts Care, Forest Fairies and Friends Theatre a My Moves - grŵp dawns cynhwysol yn Theatr y Torch ac mae’n angerddol am feithrin hyder a gwella llesiant pobl drwy'r celfyddydau.

Wrth ddod i glo, dywedodd Freya: “Mae fy ngweithdai’n gynhwysol, yn greadigol ac yn llawen. Rwy'n hoffi creu awyrgylch lle rydym yn mynegi a rhoi cynnig ar bethau newydd mewn dull hwyliog a chalonogol. Byddwn yn edrych ar ystod o wahanol weithgareddau drama dros yr wythnosau o gemau drama/symud, creu cymeriadau, golygfeydd o ddramâu Cymraeg, actio comedi a thasgau creadigol.

Mae’r dosbarthiadau ar gyfer pawb i gael ychydig o hwyl, cwrdd â phobl newydd a chymdeithasu yn yr hyfryd Theatr Torch.”

Sbri Mentrus Drama gyda Freya Dare

Iau 25 Ionawr, Iau 8 a 22 Chwefror, Iau 7, 21 a 28 Maw

Sesiynau gweithredol, cynhwysol a hygyrch sy'n annog dychymyg / hunanhyder.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.