Theatr Torch a Theatr Clwyd yn cyhoeddi’r cast ar gyfer cynhyrchiad gafelgar ar y cyd o’r enw Kill Thy Neighbour

Ni fydd edmygwyr The Traitors ar BBC, Alan Ayckbourn, Tim Firth Chekov am golli’r ddrama gomedi dywyll hon wedi ei gosod mewn pentref ffug yma yn Sir Benfro. Bydd Kill Thy Neighbour, cynhyrchiad ar y cyd gan Theatr Torch a Theatr Clwyd, yn dod i lwyfan Theatr y Torch o Ebrill 24 – 4 Mai.

Croeso i'r pentref gyda golygfeydd gogoneddus…
Mae Caryl a Meirion wedi byw yn eu pentref cerdyn post perffaith ers blynyddoedd – yn magu teulu, yn addurno dro ar ôl tro, wrth wylio eu cymuned yn araf ddiflannu.

Nawr mae Caryl eisiau dianc, ond mae Meirion yn daer eisiau aros.
Ai teyrngarwch?
Perthyn?
Neu gyfrinach dywyll fydd yn eu cadw nhw yma am byth?

Wedi’i hysgrifennu gan Lucie Lovatt a aned yn Wrecsam, rhediad cyfyngedig of Kill Thy Neighbour yw drama lawn gyntaf Lucie, comedi dywyll am gariad, llofruddiaeth a theimlo’n gaeth yn eich bywyd eich hun. Caiff ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig gwobrwyedig Theatr Torch, Chelsey Gillard yn dilyn ei phantomeim o Beauty and The Beast yn 2023 a wnaeth dorri record.

“Mae Kill Thy Neighbour yn ddoniol ac yn arswydus - fy hoff gyfuniad i. Mae’n siarad am faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar lawer o gymunedau yng Nghymru ac mae ganddi gymaint o galon. Rydw i’n angerddol am ysgrifennu newydd a lleisiau newydd ar ein llwyfannau ni, dyma ddrama gyntaf Lucie ac mae hi wedi’i saernïo’n hyfryd ac yn ddifyr.

“Mae y Torch wrth ei bodd yn gweithio ar y cyd â Theatr Clwyd i ddod â’r ddrama yma’n fyw ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ei rhannu gyda chynulleidfaoedd yn yr Wyddgrug ac yn Aberdaugleddau,” meddai Chesley.

Mae aelodau’r cast o sêr wedi eu cyhoeddi ac yn cynnwys Victoria John (Gwaith/Cartref, Miranda) fel Caryl a Catrin Stewart (Stella, Doctor Who) fel Seren, Jamie Redford (Emmerdale, ITV) fel Gareth, Gus Gordon (The Sandman, Netflix) fel Max a Dafydd Emyr (Danny The Champion Of The World, Sherman Theatre) fel Meirion.

Mae’r tîm creadigol yn cynnwys Dylunio Setiau a Gwisgoedd: Elin Steele, Dylunio Goleuadau: Lucía Sánchez Roldán, Cyfansoddwr a Dylunio Sain: Tic Ashfield, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Ellie Rose, Cyfarwyddwr Castio: Polly Jerrold, Rheolwr Llwyfan y Cwmni: Alec Reece, Dirprwy Reolwr Llwyfan: Tyla Thomas o Sir Benfro, Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: Emma Hardwick.

Bydd sioe Kill Thy Neighbour yn cael ei pherfformio yn Theatr Clwyd o 2-20 Ebrill. Yna cynhelir y sioe yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau rhwng 24 Ebrill – 4 Mai. Tocynnau'n £23. Consesiwn: £20. O dan 26: £10. Perfformiad Dehongliad BSL – 2ail Mai (Dehonglydd Liz May). Gellir archebu tocynnau oddi ar wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk neu drwy ffonio 01646 695267.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.