THEATR Y TORCH YN CYNNIG RHODD NADOLIG DELFRYDOL

Ydych chi'n mynd i'r sinema? Ydych chi'n mwynhau darllediadau byw? Ydych chi wrth eich bodd yn dod i'ch theatr leol? Peidiwch ag edrych ymhellach, gan fod gan Theatr y Torch, Aberdaugleddau yr anrheg Nadolig perffaith i chi – Aelodaeth y Torch a fydd yn rhoi buddion gwych i chi eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn.

Dewch yn aelod Sbarc, Fflam neu Oleufa yn y Torch a chefnogwch ein theatr a’r gwaith mae’r Torch yn ei wneud yn y gymuned. Mae'n anrheg berffaith i'r rhai sy'n angerddol am y celfyddydau yma yn Sir Benfro. Trwy ddod yn aelod nid yn unig y byddwch yn cael mynediad at rai buddion gwych - byddwch hefyd yn cefnogi Theatr y Torch i ymestyn ymhellach gyda'i rhaglen artistig a'i phrosiectau ymgysylltu ar draws ein cymuned.

Mae Theatr y Torch yn adnabyddus am ei hamrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys Theatr Ieuenctid y Torch ar gyfer plant rhwng saith ac 16 oed o bob rhan o'r sir, sy'n mynychu dosbarthiadau wythnosol; Côr Cymunedol Lleisiau'r Torch gyda chantorion o bob gallu ac oed; Côr Crud Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer pobl sy’n byw gyda neu’n gofalu am rywun â dementia; My Moves – dosbarth dawns anabledd wythnosol; Grwpiau rhieni a babanod ac ysgolion haf a gweithdai yn cwmpasu ysgrifennu creadigol, drama, dawns a theatr gerdd.

​Annie Taylor yw Ymgynghorydd Marchnata Theatr y Torch ac mae’n delio â chodi arian. Mae hi'n dweud bod y cynllun Aelodaeth yn wirioneddol werth chweil.

Ychwanegodd: “Mae cynllun aelodaeth newydd y Torch yn helpu i godi arian hanfodol sy’n sicrhau y gall y Theatr barhau â’i gwaith ar y llwyfan a thu hwnt, ar yr un pryd â rhoi cipolwg unigryw i chi ar fyd y theatr.”

Fel Aelod o’r Torch, nid yn unig y byddwch yn arbed arian, ond byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau arbennig a byddwch yn cael cyfle i ymwneud mwy â’ch theatr leol.

Mae tair haen o aelodaeth ar gael:

SBARC yn cynnig cyfle i bobl ifanc sy'n hoff o'r theatr fwynhau theatr a mwy am bris teg

FFLAM gyda'r un buddion â Sbarc ond i oedolion

Mae GOLEUFA yn cynnwys buddion Sbarc a Fflam ond gyda rhai pethau ychwanegol

P'un a ydych chi'n aelod o Sbarc, Fflam neu Oleufa, fe gewch chi groeso cynnes wrth gefnogi cymuned sy'n tyfu ac sy'n rhoi mynediad i fwy o bobl i theatr a'r celfyddydau fel rhan o'i rhaglen allgymorth.

Os hoffech ddod yn Aelod neu brynu aelodaeth fel anrheg, cysylltwch â Theatr y Torch ar 01646 695267 neu e-bostiwch memberships@torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.