BLOG RHIF. 6 - TIM HOWE

Helo Shwmae,

Tim ydw i a minnau yw Uwch Reolwr newydd sbon Theatr y Torch ar gyfer Ieuenctid a Chymuned.

Mae wedi bod yn ddechrau prysur i 2023 – ond ni allwn fod wedi gofyn am le gwell i weithio. Nid yw byth yn hawdd dechrau swydd newydd, symud i gartref newydd, a gwneud ffrindiau newydd. Er hynny, mae pawb yr wyf wedi cyfarfod â hwy, cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, a chydweithwyr wedi rhoi croeso mawr i mi, ac ni allaf aros i gwrdd â hyd yn oed mwy ohonoch o bob rhan o sir Benfro a gorllewin Cymru gyfan.

Rwy’n siŵr bod rhai ohonoch yn meddwl tybed beth yw fy rôl… wel mae ychydig fel brand paent adnabyddus a arferai ddweud, “Mae’n gwneud yn union beth mae’n ei ddweud ar y tun”. Mae’n bleser mawr gennyf oruchwylio ein holl waith gyda phobl ifanc, sefydliadau addysgol, grwpiau cymunedol o bob lliw a llun, a diddordebau, yn ogystal â’r rhai nad ydynt yn weithwyr proffesiynol anhygoel o bob rhan o’n hardal yr ydym yn eu croesawu i’r adeilad yn wythnosol.

Mae gennym ni gymaint o ffyrdd anhygoel o ymwneud â Theatr y Torch, fel ein Theatr Ieuenctid clodwiw ar gyfer pobl ifanc 8 i 18 mlwydd oed (yr wyf yn ei rhedeg), ein côr cymunedol gwych Lleisiau'r Torch dan arweiniad Angharad Sanders, Fy Symudiadau (grŵp symud anabledd yng Nghymru) mewn cysylltiad â Phobol yn Gyntaf Sir Benfro), Baby Steps (Grŵp rhieni a babanod sy’n cael ei redeg gan Arts Care Gofal Celf), yn ogystal â grŵp canu Dementia Opera Cenedlaethol Cymru, Côr y Crud.

Ar y 19eg Chwefror rydym yn falch iawn o fod yn cynnig ein gweithdy ysgrifennu creadigol cyntaf i oedolion, gyda thri diwrnod (20fed, 21ain a 22ain Chwefror) o ysgrifennu creadigol gyda phobl ifanc 15 – 18 mlwydd oed i ddilyn. Ceir mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan yma.

Ond nid dyna’r cyfan, rydym hefyd yn cynnig gweithdai, teithiau cefn llwyfan, a lleoliadau gwaith. Mae gen i gynlluniau ar y gweill hefyd i gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd yn y dyfodol agos iawn felly cadwch eich llygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol am y ffyrdd diweddaraf i ‘Gymryd Rhan’.

Mae pob un ohonom yn y Torch yn credu'n angerddol y gall pob person ddod o hyd i le yma, ond rydym hefyd yn gwybod efallai na fyddwn yn darparu hynny i chi eto. Dyna pam rydw i yma – i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r ffordd berffaith i chi fod yn rhan o’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Rwy’n awyddus i weithio gyda phawb i’ch helpu i wneud y gorau o gael un o dai cynhyrchu amlycaf Cymru ar garreg eich drws.

Rydych chi wir wedi’ch sbwylio gan ddewis o ran bod yn rhan o’r cyffro yma yn y Torch, a hynny cyn gallu cael mynediad at rai o’r ffilmiau gorau, theatr wefreiddiol, a cherddoriaeth fyw yn un o’n dwy awditoriwm. Mae cymaint o bethau rhyfeddol ar y gweill i chi eu gweld – mae fy nyddiadur yn dechrau llenwi yn barod! Ym mis Mawrth byddaf yn edrych ymlaen at weld y Torch yn croesawu yr aml-wobrwyedig Shôn, gyda'i sioe Still Floating. Gwelais ei gynhyrchiad olaf Possible, ac os golyga hynny unrhyw beth, cewn noson theatr sy’n procio’r meddwl. Mewn cyferbyniad llwyr, rydw i hefyd yn paratoi i neidio i’r sioe gerdd ddwyieithog Tic Toc, sy’n dod i’n prif lwyfan fis Mawrth yma. Fel rhywun a gafodd fy magu ar sioeau cerdd ffilmiau’r 1950au a’r 60au rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i weld a chlywed rhywbeth newydd mewn genre sy’n dal cymaint o atgofion hapus i mi.

Edrychaf ymlaen at eich gweld yn un o’n digwyddiadau yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ac os yr ydych yn fy ngweld o gwmpas yr adeilad, neu ar y stryd, peidiwch ag oedi cyn dweud ‘Helo’.

Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw beth uchod, am ddechrau ar eich taith greadigol, neu dim ond i drefnu sgwrs dros baned am yr hyn y gallem ei wneud i chi neu eich grŵp, cysylltwch â mi ar e-bost, sef tim@torchtheatre.co.uk neu ffoniwch 01646 694192.

Llun gan Chris Lloyd.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.