TIM HOWE

Mae’n greadigol tu hwnt i eiriau, yn hynod dalentog ac am ddod i’ch adnabod – dewch i gwrdd â Tim Howe, Uwch Reolwr newydd Theatr y Torch - Ieuenctid a Chymuned.

Dim ond ers dechrau 2023 y mae Tim, sy’n wreiddiol o Ddwyrain Canolbarth Lloegr, wedi bod yn ei swydd yn y Torch ac mae eisoes wedi creu argraff yma yn Sir Benfro.

Mae gan Tim gyfoeth o brofiad yn trefnu gweithdai creadigol ac mae’n ymweld ag ysgolion yn rheolaidd i gael y disgyblion i ymgysylltu â’r theatr – o oleuo a chyfarwyddo i ysgrifennu creadigol a pherfformio, gellir cael mynediad i ddosbarthiadau o’r fath yn Theatr y Torch dan lygad barcud Tim a’i dîm creadigol.

Wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth ac yna ennill gradd o Ysgol Theatr Old Vic Bryste, mae Tim bob amser wedi bod am weithio yng Nghymru – y wlad mae’n ei alw’n gartref. Pan ddaeth y swydd wag yn y Torch, neidiodd Tim at y cyfle i symud ymhellach i'r gorllewin ac nid yw wedi edrych yn ôl.

“Byth ers gadael Aberystwyth roeddwn yn chwilio am reswm i ddychwelyd i Gymru. Mae Cymru’n teimlo fel cartref i mi ac rwy’n gwybod mai dod i Theatr y Torch oedd y penderfyniad cywir,” esboniodd Tim a fu’n gweithio yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd fel Rheolwr Ymgysylltu Creadigol y lleoliad am dros bum mlynedd.

Mae rôl Tim yn y Torch yn amrywiol ac mae pob diwrnod yn wahanol:

“Mae gweithio yma yn y Torch mor gyffrous. Mewn gwirionedd mae'n fwy creadigol ac anturus na gweithio yn y ddinas. Mae mynd i’r gwaith bob dydd a cherdded ochr yn ochr â’r Hafan a’r Harbwr, gweld cefn gwlad a’i phobl yn teimlo fel cymuned, a’r gymuned honno yr ydym yn ceisio denu yma i’r Torch, i fod yn rhan o’r Torch a chynnig beth maen nhw wir eisiau,” ychwanegodd Tim.

Ar nos Iau, mae Tim yn cynnal gweithdy Sgiliau Creadigol ac Ysgrifennu i rai 18 oed a thros le mae cyfranogwyr yn edrych ar dechnegau ar gyfer perfformio, cyfarwyddo ac ysgrifennu. Yn ogystal â rhannu syniadau artistig mae hyn yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd. Cynhelir y gweithdy nesaf ar 18 Mai o 8pm tan 10pm.

“A’r hyn sy’n wych am y gweithdai hyn yw nad oes yn rhaid i chi fynychu pob un ohonyn nhw. Efallai na fydd rhai yn apelio ac eraill o ddiddordeb. Does dim rhaid i chi fynychu pob un, dim ond y rhai rydych chi'n meddwl y byddwch chi'n eu mwynhau ac maen nhw oll yn digwydd mewn amgylchedd cyfeillgar, croesawgar yma yn y Torch,” esboniodd Tim.

O Tsiena i St Ives yng Nghernyw, mae Tim wedi gweithio gyda grwpiau theatr ieuenctid ac ym myd y ddrama cyhyd ag y gall gofio, ac mae’r rôl newydd hon yn y Torch wedi plesio’n arw.

“Mae’n anhygoel ac rydw i wedi cyfarfod â nifer o bobl newydd – plant ac oedolion. Mae hyn ynddo'i hun yn eich cadw chi'n greadigol a dyma pam rydw i wrth fy modd yn gwneud yr hyn rydw i'n ei wneud.

“Yn ddiweddar, fe wnaethom ni gynnal gweithdy goleuo a sain ar gyfer Ysgol Gymunedol Pennar, fe wnaethom gynnal sesiwn ysgrifennu Stori Arswyd gydag Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau ac yn fwy diweddar diwrnod drama a gemau yn Ysgol Gynradd Tavernspite. Mae’n ymwneud ag ymgysylltu ag ysgolion, athrawon a disgyblion a’u hannog i ymddiddori yn yr hyn rydym yn ei wneud yma yn y Torch a’u cael i gymryd rhan – o Geredigion i Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, mae ein drws ar agor i bawb,” meddai Tim.

Bwriad gweithgaredd Theatr y Torch ar gyfer pobl ifanc rhwng saith ac 18 oed yn ogystal ag oedolion yw rhoi mewnwelediadau creadigol rhyngweithiol a diddorol i’r broses o wneud theatr, fel yr eglura Tim.

“Bob wythnos mae ein cyfranogwyr yn cael eu hannog i adeiladu eu hyder trwy sesiynau meithrin sgiliau creadigol a deniadol, dan arweiniad ein tîm ymroddedig. Nid yw'r sesiynau hyn yn ymwneud ag actio a theatr yn unig; rydym yn sicrhau bod pawb yn datblygu eu sgiliau cymdeithasol, datrys problemau, a gwaith tîm. Yn bwysicaf oll, rydym am i bobl gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd.

“Mae Theatr y Torch yn ofod croesawgar i bawb. Ein nod yw gwneud addasiadau rhesymol i’n darpariaeth er mwyn sicrhau bod pob grŵp yn addas i bawb, fel y gall pawb wneud y gorau o’u profiadau.”

Gorffennodd Tim: “Rydym yn ceisio cynnwys pobl mewn mannau diogel creadigol sy'n caniatáu iddynt fynegi eu hunain; i weithio allan beth sy'n bwysig iddyn nhw, beth maen nhw'n angerddol amdano, a sut i ddweud wrth bawb am hynny. Rydyn ni’n credu bod gan bawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw y pŵer i wneud eu straeon eu hunain, a newid sut rydyn ni oll yn gweld ein byd. Rydym yn croesawu pawb ac yn edrych ymlaen at eich gweld yn rhai o’n gweithgaredd cyn hir.”

Am fwy o wybodaeth yn ymwneud â’r gweithdy, ymweliadau ysgol a Theatr Ieuenctid y Torch, cysylltwch â 01646 695267.

Llun: gan Chris Lloyd

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.