Blog No. 16 - Nia ap Tegwyn

Dewch i gwrdd â Nia ap Tegwyn. Mae’n hyrwyddo gwaith Theatr y Torch fesul y dudalen Gymraeg ym mhapur wythnosol y Carmarthen Journal a gobeithia dod yn ymwelydd rheolaidd â’r Torch.

Derbyniais wahoddiad i fynd i Theatr y Torch i weld drama Private Lives nȏl yn mis Hydref ac er fy mod wedi bod yn y theatr un tro sawl blwyddyn yn ôl nid wyf yn gyfarwydd iawn â’r lleoliad na chwaith am eu harlwy. Cawsom y croeso mwyaf cynnes i dderbyniad hyfryd cyn y sioe a braf oedd gallu rhwydweithio a chwrdd ag eraill a sgwrsio’n hamddenol. 

Mae ardal y bar a’r dderbynfa’n gyffyrddus braf ac roedd pawb yn hapus i fod yna ac yn edrych ymlaen at y wledd oedd o’n blaenau. Roedd y ddrama ei hun yn newydd i fi ond yn glasur wrth gwrs a’r actorion i gyd yn wych. Wnes i wir fwynhau’r ddrama’n fawr iawn ac eto yn braf i gael cymdeithasu yn ystod yr egwyl. Gan nad oeddwn yn gyfarwydd iawn â’r theatr ar y pryd, rwyf wedi bod yn gwneud ymchwil ar-lein ers fy ymweliad i ddarganfod pa gynyrchiadau, perfformiadau ac artistiaid sydd gyda nhw ar amserlen y dyfodol.

Roeddwn wedi fy synnu ar yr amrywiaeth eang y mae’r theatr yn cynnig ac ar ôl gweld Private Lives, sef drama o safon, rwyf yn gwybod bydd unrhyw beth fyddaf yn dewis ei gweld yn y dyfodol o’r safon uchaf hefyd. Rwyf wedi gweld sawl peth sydd yn denu fy sylw a byddaf yn mynd ati i benderfynu beth i roi yn nyddiadur 2024 cyn bo hir.

Un o’r pethau fydd yn sicr ar fy rhestr yw’r ddrama Kill Thy Neighbour, sef drama ar y cyd â Theatr y Torch a Theatr Clwyd. Bydd hon yn cael ei dangos ym mis Ebrill ac rwy’n edrych ymlaen yn barod at weld y cynhyrchiad. Y cwestiwn mawr am y ddrama wrth gwrs, yw pwy fydd yn cael dod gyda fi a pha ddanteithion i brynu adeg yr egwyl! 

Fel rhan o fy ngwaith gyda Menter Iaith Menter Gorllewin Sir Gâr, rwy’n cydlynu tudalen Gymraeg y Carmarthen Journal a felly rwyf yn hyrwyddo perfformiadau cyfrwng Cymraeg Theatr y Torch eisoes ar y dudalen hon a felly braf byddai mynychu un ohonynt hefyd. 

Clywais si hefyd bod y Theatr wedi cynnwys geiriau ac ymadroddion Cymraeg yn y panto o Beauty and the Beast, felly da iawn am wneud hyn a rwyf wir yn edrych ymlaen at ymweld â’r theatr eto. Rwyf wedi sôn am fy mhrofiad yn y theatr wrth deulu a ffrindiau ac wedi’u hannog i fynd i’r wefan er mwyn cael blas o’r arlwy a gobeithiaf bydd rhai ohonynt yn manteisio ar y cyfle ac yn prynu tocynnau yn y flwyddyn newydd. Pwy â ŵyr, efallai byddai modd i ni drefnu bws i fynd i weld Kill Thy Neighbour

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.