Royal Opera: Darlledu Rusalka yn y Torch

Mae Rusalka, a ddarlledir gan y Royal Opera, yn hanfodol i'r rhai sy'n hoff o opera ledled y byd! Pan mae’r ysbryd dŵr, sy’n byw gyda’i theulu yn nyfroedd pur llyn y goedwig yn syrthio mewn cariad â Thywysog, mae’n aberthu ei llais ac yn gadael ei chartref yn y gobaith o ddod o hyd i wir gariad mewn byd newydd. Er hynny, nid yw'r byd hwnnw'n caru Rusalka yn ôl.

Mae'r darllediad a recordiwyd yn y Theatr y Torch, Aberdaugleddau ar ddydd Sul 28 Ionawr yn gweld Natalie Abrahami a Ann Yee yn creu llwyfan newydd barddonol, cyfoes o stori dylwyth teg delynegol Dvořák. Byddant yn datgelu ein perthynas anesmwyth â’r byd naturiol ac ymdrechion dynoliaeth i’w berchen a’i ddofi. Semyon Bychkov sy'n arwain cast llawn sêr sy'n cynnwys Asmik Grigorian (Jenůfa) yn y brif ran.

Gyda cherddoriaeth gan Antonin Dvorák, bydd yr opera yn cael ei chanu yn Tsieceg gydag isdeitlau Saesneg.

Caiff Rusalka ei ddarlledu’n fyw yn Theatr y Torch ar ddydd Sul 28 Ionawr am 2pm. Pris tocyn cyffredin: £20, Consesiwn £18, O dan 26: £9. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.